Neidio i'r prif gynnwy

Ffisiotherapi Iechyd Galwedigaethol

Gall unrhyw aelod o staff BIP Caerdydd a'r Fro hunanatgyfeirio at Ffisiotherapi trwy Iechyd Galwedigaethol.

Os oes gennych unrhyw boen neu anabledd cyhyrysgerbydol, er enghraifft; cefn, pen-glin, ysgwydd ac ati, gallwch dderbyn mynediad cyflym at gyngor i helpu i reoli'ch cyflwr. P'un a ydych wedi profi anaf yn y gwaith neu tu allan i'r gwaith, gallwch gael eich asesu gan un o'n tîm ffisiotherapi trwy atgyfeirio'ch hun at y gwasanaeth. Yn yr un modd â phob asesiad a wneir gan Iechyd Galwedigaethol, mae'r asesiad ffisiotherapi yn gwbl gyfrinachol.

Os hoffech chi hunanatgyfeirio, gallwch wneud hynny trwy gysylltu naill ai â'r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol yn YAC ar est 02920 743264, neu'r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol yn YALl ar est 02920 715140.

 

 


Pwy ydym ni:

Darganfyddwch fwy am bwy ydym ni a sut i gysylltu â ni. 

physically unwell poster (small)

Cliciwch ar y ddelwedd i lawrlwytho'r ddogfen 'Pa gymorth sydd ar gael?'

Mae rhai o'r pwyntiau allweddol yn cynnwys:

  • Mae ystum y corff ‘gwael’ neu ‘ddrwg’ yn aml yn dermau a ddefnyddir i egluro poenau i bobl sy’n gweithio mewn safleoedd statig.
  • Fodd bynnag, nid yw ‘ystum y corff da’ ar ben ei hun bob amser yn atal cyflyrau cyhyrysgerbydol rhag datblygu.
  • Mae'n debygol, waeth beth fo'ch ystum, y byddwch chi'n dioddef poenau sylweddol os ydych chi'n treulio gormod o amser yn eistedd neu yn yr un ystum
  • Mae'n hanfodol nad ydych chi'n treulio gormod o amser yn yr un ystum
  • Gosodwch larwm ar eich cyfrifiadur personol neu ddyfais arall i’ch rhybuddio bob 20-30 munud i gymryd ‘seibiant bach’ 30 eiliad o’ch ystum gweithio
  • Defnyddiwch yr amser hwn i ‘symud’ eich holl brif gymalau fel yr ysgwyddau, penelinoedd, arddyrnau a dwylo neu hyd yn oed godi o'ch sedd i newid eich ystum yn fyr
  • Bydd taith gerdded fer, bob awr, i'r ystafell ymolchi neu i wneud diod hefyd yn helpu i leihau'r potensial ar gyfer dechrau cyflyrau cyhyrysgerbydol
  • Ymgorfforwch weithgaredd lle bo hynny'n bosibl, fel taith gerdded amser cinio

Asesiadau Gweithle

Ar hyn o bryd mae gennym fwy o bobl yn gweithio gartref nag sydd gennym fel arfer. Gallai gweithredu'r cyngor yn y fideo a ganlyn eich helpu i leihau dyfodiad cyflwr cyhyrysgerbydol, neu waethygu cyflyrau presennol, a allai ddod yn sgil gweithio o gartref. 

 

 

 

Os ydych chi'n teimlo bod eich gweithle'n cyfrannu at gyflwr cyhyrysgerbydol, yna gallai asesiad gweithle fod yn briodol.

A yw'ch cadair yn cyfrannu at eich problem cyhyrysgerbydol?
Gweler -  ‘Gosod a Gwybodaeth am Gadeiriau Ergonomig’

A ydych yn defnyddio gliniadur yn y gwaith? Darganfyddwch sut i leihau'r risg o ddatblygu Cyflyrau Cyhyrysgerbydol.

Cadw'n Heini

Mae llawer o ffyrdd o aros yn heini yn y gwaith.

 


Adnoddau Rheoli Poen

 

 

Gwybodaeth Ddefnyddiol i Weithwyr Llonydd - a yw'ch swydd yn cynnwys eistedd/sefyll am gyfnod hir?

Mae cyfraddau salwch staff Gweinyddol (Llonydd) mor uchel â 4.3% ymhlith gweithwyr GIG Cymru, dim ond 2.1% yn is na'r ganran i broffesiynau rheng flaen ‘ymarferol’ fel Nyrsio, bydwreigiaeth ac Ymwelwyr Iechyd (6.4%) (StatsCymru 2017). Cliciwch y ddolen am wybodaeth iechyd galwedigaethol gweithwyr llonydd. 

Hefyd, ceir rhai taflenni ymarfer corff a fideos defnyddiol gan Arthritis Research yn;  https://www.versusarthritis.org/

 

Dilynwch ni