Neidio i'r prif gynnwy

Rhyddid i Leisio Barn

Mae pawb yn haeddu rhyddid i leisio barn yn ddiogel.

Mae diogelwch a lles cleifion, defnyddwyr gwasanaethau a staff bob amser wedi bod yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a’r Fro. Rydym yn ymrwymedig i feithrin diwylliant o fod yn agored ar draws pob rhan o’r sefydliad, er mwyn eich cefnogi a’ch annog i roi gwybod am unrhyw bryderon a allai fod gennych, gan fod yn sicr y byddwch yn cael eich trin â pharch ac urddas pan fyddwch yn gwneud hynny.

Cafodd y fenter Rhyddid i Leisio Barn ei chychwyn er mwyn creu amgylchedd sy’n galluogi ac yn grymuso staff i godi unrhyw bryderon a allai fod ganddynt, neu bryderon y maent yn arsylwi arnynt yn eu maes gwaith, ac i hysbysu’r corff neu’r awdurdod perthnasol, gan wybod y bydd camau’n cael eu cymryd o ganlyniad.  

Yn dilyn blwyddyn eithriadol o heriol, mae’r BIP yn anelu at barhau i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd o safon uchel. Mae’n bwysig nawr, yn fwy nag erioed, i fynd i’r afael â phryderon yn brydlon ac yn briodol.  

Rydym yn deall nad yw’n hawdd codi pryder, a gall fod yn anodd gwybod beth i’w wneud. Mae’r tudalennau gwe hyn wedi’u dylunio i roi gwybodaeth a chymorth i chi ynghylch proses Rhyddid i Leisio Barn BIP, a’ch cyfeirio at gyngor a chymorth sydd ar gael. 

Yn syml, mae pryder yn golygu eich bod yn credu bod rhywbeth ddim yn iawn.

Rydym yn annog staff i drafod pryderon a materion diogelwch mor brydlon â phosibl.

Rhoddir ystyriaeth o ddifrif i’ch pryderon bob amser, a gweithredir arnynt yn briodol.

 

Sut i godi pryder

Cam 1 - Dweud wrth rywun

Rhowch wybod i aelod o staff fel eich rheolwr llinell, goruchwyliwr sifftiau, mentor, neu gydlynydd gwirfoddolwyr am eich pryder yn uniongyrchol. Efallai y byddwch hefyd am gynnwys cynrychiolydd o’r undeb llafur, neu’r adran adnoddau dynol.

Cam 2 - Atgyfeirio eich pryder

Os na allwch gymryd Cam 1 am ba reswm bynnag, neu eich bod wedi’i gymryd a heb gael ymateb boddhaol, atgyfeiriwch eich pryder at uwch-reolwr o fewn eich adran, neu fwrdd clinigol, cynrychiolydd o’r undeb llafur neu’r adran adnoddau dynol.

Cam 3 - Cysylltwch â’r tîm Rhyddid i Leisio Barn

Os ydych yn anfodlon ar ganlyniad Camau 1 a 2, neu’n teimlo fod y mater mor ddifrifol fel na allwch ei drafod ag unrhyw un o’r uchod, anfonwch e-bost at y tîm cymorth Rhyddid i Leisio Barn yn uniongyrchol ar F2SUCAV@wales.nhs.uk neu ffoniwch 02921 846000.

Os oes gennych bryder, rhowch wybod amdano. Mae eich llais o bwys.

Beth yw pryder?
Ymateb i bryder
Adnoddau a chymorth
Dilynwch ni