Neidio i'r prif gynnwy

Adnoddau a chymorth

Mae’r BIP yn deall y gall fod yn anodd codi pryder. Mae’r dudalen hon yn rhoi cymorth a chyngor  i staff a rheolwyr pan fyddant am godi pryder. Isod ceir rhai meysydd o fewn y Bwrdd Iechyd a allai roi cymorth i chi pan fyddwch am godi pryder.

Tîm Gweithrediadau Adnoddau Dynol

Mae’r adran Adnoddau Dynol yn rhoi cyngor i gyflogeion a rheolwyr ar ymholiadau cyffredinol sy’n ymwneud ag Adnoddau Dynol a gellir cysylltu â hwy ar  CAVHR_actionpoint@wales.nhs.uk neu 02921 836287 [Est. 36287].

 

Undebau Llafur
Mae’r BIP yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth ag undebau llafur a sefydliadau proffesiynol cydnabyddedig, ac mae’n eich annog yn weithredol i ymuno ag unrhyw undeb llafur neu gorff proffesiynol o’ch dewis (yn amodol ar unrhyw reolau aelodaeth ar gyfer y sefydliad hwnnw a allai fod yn gymwys).

I gael rhagor o wybodaeth am ymuno ag undeb, siaradwch â’ch cynrychiolydd lleol yn y gweithle, neu edrychwch ar y wefan neu’r hysbysfwrdd perthnasol.

Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau a ddarperir gan Iechyd Galwedigaethol, sut i atgyfeirio a chwestiynau cyffredin, edrychwch ar yr adran Iechyd Galwedigaethol ar y tudalennau ‘Eich Iechyd a Lles’.

Iechyd a Lles Cyflogeion
Mae ystod lawn o ddeunyddiau a chymorth ar gael i chi ar ein tudalennau gwe. Cliciwch yma i weld yr ystod o gymorth, yn fewnol ac allanol, sydd ar gael i ddiwallu’ch anghenion lles.

Polisïau a Gweithdrefnau Ategol

 

Adnoddau mewnol  

Mae rheoleiddwyr proffesiynol yn cynnig arweiniad ar godi pryderon - er enghraifft, cliciwch ar y dolennau canlynol i gael arweiniad gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth; Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal; Y Cyngor Meddygol Cyffredinol; Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol

Gall asiantaethau’r llywodraeth eich helpu i godi pryderon

Astudiaethau Achos

Mae astudiaethau achos gwych ar gael ar wefan Protect UK.

Dilynwch ni