Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb i bryder

Rydym oll yn haeddu’r rhyddid i leisio barn gan fod yn hyderus y cawn ymateb prydlon a phriodol i unrhyw bryderon a godir gennym.

Rydym yn ymrwymedig i feithrin amgylchedd sy’n annog dialog a chyfathrebu agored.

Os ydych chi’n rheolwr, mae’n hanfodol creu amgylchedd galluogi ar gyfer aelodau eich tîm er mwyn iddynt deimlo bod rhyddid ganddynt i leisio barn, a’u bod yn ymwybodol o’r systemau cymorth sydd ar gael.

Mae’r ffordd rydym yn ymateb i bryder yn bwysig iawn. Dyma rai awgrymiadau i’w hystyried wrth ymateb i bryder.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y weithdrefn a ddilynir o fewn y sefydliad unwaith y bydd pryderon wedi'u codi.

Cofiwch fod yr unigolyn sy’n siarad yn teimlo’n nerfus fwy na thebyg. Ystyriwch hyn wrth ymgysylltu â’r unigolyn hwnnw. Er enghraifft, byddwch yn amyneddgar, gwrandewch yn barchus ac ymatebwch yn sensitif.

Gwrandewch ar beth sydd ganddynt i’w ddweud a’i gofnodi. Gofynnwch iddynt egluro unrhyw bethau aneglur, ond cofiwch ei bod yn bosib nad ydynt yn gwybod yr union fanylion. Darllenwch yr hyn rydych wedi’i gofnodi fel eu bod yn gwybod beth sy’n cael ei nodi.

Sicrhewch yr unigolyn na fydd yn dioddef unrhyw anfanteision o ganlyniad i godi’r pryder. Dylech ei sicrhau na fydd yn cael ei enwi lle bynnag y bo’n bosibl. Darparwch gopi o bolisi perthnasol y BIP.

Cymerwch gamau er mwyn datrys y pryder. Rhowch wybod i uwch-reolwr, cyfarwyddwr a/neu rywun sydd â chyfrifoldebau dynodedig i “siarad dros staff”.

Dywedwch wrth yr unigolyn a gododd y pryder pwy sy’n ymchwilio iddo, faint o amser y bydd hyn ei gymryd a beth sy’n debygol o ddigwydd nesaf.

Rhowch y diweddaraf i’r unigolyn a gododd y pryder, yn unol â rheolau cyfrinachedd. Mae hyn yn gritigol. Mae’n hanfodol bod yr unigolyn yn gwybod bod ei benderfyniad i leisio barn yn gwneud gwahaniaeth.

 

Dilynwch ni