Neidio i'r prif gynnwy

Atgyfeiriadau i'r NICU

Baban yn dal bysedd oedolyn

Atgyfeiriadau i'r NICU

Mae'r rhan fwyaf o'n cleifion wedi'u geni yn yr ysbyty, ond ysbytai eraill fydd yn atgyfeirio tua chwarter ohonynt i ni. Trosglwyddiadau ex-utero brys yw'r cleifion hyn yn bennaf. Daw mwyafrif y cleifion hyn o ysbytai eraill yng Nghymru a daw lleiafrif bach iawn ohonynt o Loegr. 

Yn gyffredinol, dilynir cleifion i fyny am gyfnod o hyd at flwyddyn i 2 flynedd, yna cânt eu rhyddhau neu eu hatgyfeirio i'r Tîm Pediatrig Cymunedol.

Mae bron pob un o'r cleifion sy'n cael eu gweld yn yr Adran Cleifion Allanol Babanod Newydd-anedig wedi graddio o'n NICU. Weithiau, bydd meddygon teulu'n atgyfeirio baban o'r gymuned i Gleifion Allanol Babanod Newydd-anedig.

Gweithdrefnau Atgyfeirio

Atgyfeirio ar Frys

Dylid bob amser atgyfeirio ar frys drwy'r Cofrestryddion Babanod Newydd-anedig ar alw. Gellir cysylltu â nhw drwy'r system blîp a hynny drwy'r Switsfwrdd, 029 2074 7747, neu drwy ffonio'r NICU ar 029 2074 2680 / 2684 a gofyn am y Cofrestrydd.


Yna, bydd y Cofrestrydd Babanod Newydd-anedig yn cysylltu â'r Meddyg Ymgynghorol a threfnir trosglwyddo'r claf. Naill ai bydd ein huned yn casglu'r claf neu bydd yr ysbyty atgyfeirio yn trosglwyddo'r claf i Ysbyty Athrofaol Cymru, yn dibynnu ar gyflwr clinigol y claf ac argaeledd staff.


Cyngor dros y Ffôn 

Er mwyn trafod y rheolaeth ar achos neu i geisio cyngor, dylid cysylltu â'r Cofrestrydd Babanod Newydd-anedig drwy'r NICU neu'r Switsfwrdd. Fel arall, mae'n bosibl cysylltu â Meddygon Ymgynghorol Babanod Newydd-anedig drwy eu hysgrifenyddion neu drwy'r switsfwrdd y tu allan i oriau arferol.

Dilynwch ni