Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i Gleifion NICU

Traed baban

Ynglŷn â'r NICU

Mae NICU yn ward brysur gyda 36 chrud.  O'r rhain, mae 12 ohonynt yn grudiau gofal dwys, 10 yn grudiau dibyniaeth uchel a 14 yn grudiau gofal arbennig. 

Mae 8 Meddyg Ymgynghorol yn rhannu'r gwaith o redeg y NICU, ar sail rota wythnosol. Ar hyn o bryd, mae 4 Cofrestrydd, 10 Meddyg Iau a 2 Ymarferydd Nyrsio ynghlwm wrth yr uned.

Mae 3 rownd ward bob dydd: yn y bore, am 1630 adeg trosglwyddo ac am 2200 y nos.  Fore Mercher, mae gennym rownd fawr amlddisgyblaethol ac mae'r holl Feddygon Ymgynghorol Babanod Newydd-anedig yn cymryd rhan ynddi.   

Mae ein gwasanaethau i gleifion a rhieni yn cynnwys:

  • safon ragorol o ofal clinigol gan dîm pwrpasol o feddygon a nyrsys babanod newydd-anedig 
  • mynediad at dimau arbenigol fel Llawdriniaeth Bediatrig, Cardioleg, Niwroleg, Niwrolawdriniaeth, Arenneg, Offthalmoleg a'r Clust Trwyn a'r Gwddf 
  • Clinigau cleifion allanol bob prynhawn Mawrth a bore Gwener, pan welir cleifion ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, hyd nes byddant yn 2 oed fel arfer
  • tîm o 4 nyrs allgymorth sy'n ymweld â chleifion sydd wedi'u rhyddhau yn eu cartref a/neu sy'n cydweithio'n agos gyda'r rhieni dros y ffôn 
  • 3 Ymarferwr Nyrsio babanod newydd-anedig ac un ymarferwr nyrsio dan hyfforddiant ar hyn o bryd 
  • Clinig ar y cyd yr Arennau i Fabanod Newydd-anedig i reoli problemau arennol ar ôl geni
  • 1 cwnselydd hyfforddedig sy'n helpu i gefnogi teuluoedd yn ystod eu cyfnod yn y NICU
  • sesiynau cwnsela i rieni sy'n cael eu hatgyfeirio o Adran Meddygaeth y Ffetws.

Ymweld

Gall rhieni a brodyr a chwiorydd ymweld â'r Uned Babanod Newydd-anedig rywbryd. Fodd bynnag, rydym ni'n gofyn i rieni adael yr uned yn ystod rowndiau ward, er mwyn parchu cyfrinachedd cleifion. 

Llety

Byddwn yn ceisio darparu ystafell i rieni aros dros nos, yn enwedig rhieni sy'n byw'n bell i ffwrdd.  Mae ystafelloedd ar gael i ni yn Nhŷ Croeso ac yn Nhŷ Peter Gray, ac mae'r ddau ohonynt gerllaw'r Uned Babanod Newydd-anedig. 

Cefnogaeth i rieni

Sefydlwyd Cardiff Special Care Baby Association (Elusen Gofrestredig: 511056) gan rieni a staff yr Uned Babanod Newydd-anedig ym 1987.  O hyn, lluniwyd Grŵp Cymorth Rhieni Babanod mewn Gofal Arbennig (SCIPS), gyda'r nod o godi arian i dalu am offer, a chefnogi rhieni eraill sy'n mynd trwy brofiadau ingol tebyg tra bydd eu babanod yn yr Uned Babanod Newydd-anedig.

Cynhelir boreau coffi misol i rieni babanod a arferai gael gofal yn yr Uned Babanod Newydd-anedig, gyda chroeso a sesiwn galw heibio i rieni ac aelodau staff presennol. Cynhelir digwyddiadau cymdeithasol, fel nosweithiau cwis a nosweithiau chwarae sgitls, bob 4 mis. Mae SCIPS yn cynnal parti Nadolig blynyddol i gyn-gleifion a'u teuluoedd, ac yn cefnogi Gwasanaeth Coffa adeg y Pasg ar gyfer babanod câr, ymadawedig. 

 

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 029 2074 2680.

Dilynwch ni