Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth Glinigol am y NICU

Bwriad yr adran hon o'r wefan yw darparu gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol. 

Ein Gwasanaethau 

  • Cyfarfod amlddisgyblaethol wythnosol gydag Adran Meddygaeth y Ffetws gyda Chardioleg Bediatrig a Radioleg Bediatrig yn bresennol, i drafod rheoli esgor, genedigaeth a rheolaeth ôl-enedigol uniongyrchol cleifion Meddygaeth y Ffetws. 
  • Cyfarfodydd Llawdriniaeth Bediatrig wythnosol i drafod y rheolaeth barhaus ar gleifion llawfeddygol.
  • Cyfarfodydd Radioleg Bediatrig wythnosol, i adolygu pelydrau X rheolaidd ac i drafod cleifion mwy cymhleth.
  • Cyngor a chymorth ynghylch rheoli babanod newydd-anedig iach ar wardiau ôl-enedigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
  • Rhoi cyngor dros y ffôn i ysbytai eraill ynghylch ymholiadau cyffredinol am fabanod newydd-anedig a, hefyd, ynghylch trosglwyddo cleifion i Ysbyty Athrofaol Cymru i barhau â'u rheoli'n feddygol.
Dilynwch ni