Neidio i'r prif gynnwy

Tîm y NICU

Llun agos o boced nyrs yn cynnwys beiros a stethosgop

Mae tîm brwdfrydig ac ymroddedig o nyrsys babanod newydd-anedig, uwch-ymarferwyr nyrsio babanod newydd-anedig, meddygon dan hyfforddiant a chymrodyr, meddygon ymgynghorol ac athro yn rheoli'r uned. Mae gan bob Meddyg Ymgynghorol faes arbenigedd a diddordeb ymchwil penodol.

Ymgynghorwyr y NICU

Dr Amar Asokkumar

Diddordeb Clinigol: Cludo babanod newydd-anedig a chardioleg 

Dr Rachel Hayward

Dr Jennifer Calvert (Arweinydd Clinigol)

Diddordeb Clinigol: Diagnosis cyn-geni a chanlyniad 

Yr Athro Sailesh Kotecha

Diddordeb Clinigol: Anhwylderau anadlu'r baban newydd-anedig

Dr Mallinath Chakraborty

Diddordeb Clinigol: Awyru babanod newydd-anedig, ymchwil i fabanod newydd-anedig

Dr Ian Morris

Diddordeb Clinigol: Cludo babanod newydd-anedig

Dr Cora Doherty

Diddordeb Clinigol: Meddygaeth y ffetws a chyfyngu ar dwf yn y groth 

Dr Alok Sharma 

Diddordeb Clinigol: Cludo babanod newydd-anedig

Dr Nitin Goel

Diddordeb Clinigol: niwroddatblygiad, cronfeydd data a meincnodi, cardioleg

Dr Elisa Smit

Diddordeb Clinigol: Niwroleg a niwroamddiffyniad y baban newydd-anedig

Dr Angela Hayward

Diddordeb Clinigol: Cludo babanod newydd-anedig

 

 

Nyrsio 

Mae'r lefelau staff nyrsio ar hyn o bryd yn rhyw 97 nyrs gyfwerth ag amser llawn, gyda bach iawn o swyddi gwag. Mae'r uned yn gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd, felly mae hyn yn rhoi cyfle delfrydol i staff gael hyfforddiant arbenigol pellach ar nyrsio babanod newydd-anedig. 

Yn gyfan gwbl, mae 11 uwch brif nyrs ac un technegydd pwrpasol babanod newydd-anedig. Mae'r uned yn cynnig "gwasanaeth allgymorth", gydag ymweliadau â babanod gartref yn dilyn eu rhyddhau.

Mae'r prif nyrsys allgymorth hefyd yn rhedeg clinig profion gwaed ar gyfer y babanod hynny y mae angen profion gwaed pellach arnynt ar ôl eu rhyddhau.

Mae pump o addysgwyr ymarfer babanod newydd-anedig yn rhoi gwybod y diweddaraf i staff am ddatblygiadau diweddar ym maes nyrsio babanod newydd-anedig. Hefyd, mae 5 o grwpiau diddordeb arbennig yn yr adran, gan gynnwys bwydo ar y fron a grŵp ar gyfer gosod llinellau mewnwythiennol.

Rheolwr Uned y NICU  

Michelle Phillips

Arweinydd y Tîm Allgymorth

Jaqui Evans

 

Dilynwch ni