Neidio i'r prif gynnwy

Profion NCS/EMG

Astudiaethau dargludiad nerfol

Mae astudiaethau dargludiad nerfol (NCS) yn mesur pa mor gyflym mae nerf yn gweithio. Caiff padiau eu rhoi ar arwyneb y croen a chaiff y nerf ei hysgogi. Mae hyn yn teimlo fel tapio neu oglais, a allai fod yn anghyfforddus. 

Electromyogram

Gall prawf ychwanegol, sef Electromyogram (EMG), gael ei gynnal ar rai cleifion i brofi pa mor dda mae'r cyhyrau yn gweithio. Gweithdrefn ddiagnostig yw hon i asesu iechyd cyhyrau a'r nerfgelloedd sy'n eu rheoli (niwronau echddygol).

Mae niwronau echddygol yn trawsyrru signalau trydanol sy'n gwneud i gyhyrau gyfangu. Mae EMG yn troi'r signalau hyn yn graffiau, yn seiniau neu'n werthoedd rhifyddol sy'n cael eu dehongli gan arbenigwr. 

Mae EMG yn defnyddio dyfeisiau mân iawn o'r enw electrodau i drawsyrru neu ganfod signalau trydanol. Yn ystod EMG nodwydd, mae electrod nodwydd wedi'i gosod yn uniongyrchol mewn cyhyr yn recordio'r gweithgarwch trydanol yn y cyhyr hwnnw. 

Nid oes gan y naill brawf na'r llall unrhyw ôl-effeithiau.

Ar ddiwrnod oer, gwnewch yn siwr eich bod yn gwisgo menig. Dylai eich dwylo fod yn gynnes ar gyfer yr archwiliad hwn. Osgowch roi unrhyw olewau neu hufenau ar eich dwylo a gwisgwch ddillad llac fel y gellir cael at y penelinoedd a'r pengliniau yn hawdd.

Peidiwch â gwisgo gormod o fodrwyon/gemwaith, oherwydd gall fod angen eu tynnu ar gyfer y prawf.

Gallwch weld rhagor am y prawf yn ein Taflenni Gwybodaeth i Gleifion

Dilynwch ni