Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am brofion EEG (Electroenceffalogram)

Dyma brawf syml a di-boen, lle y mae electrodau yn recordio gweithgarwch trydanol yn yr ymennydd o groen y pen.

EEG Arferol

Dyma ymchwiliad di-boen a diogel sy'n para tuag awr ac mae'n cynnwys gosod nifer o ddisgiau bach ar groen eich pen i recordio gweithgarwch trydanol eich ymennydd. Yn ystod y prawf, efallai y gofynnir i chi anadlu'n ddwfn ac edrych ar olau sy'n fflachio; bydd angen i chi gydsynio i hyn ac fe'i trafodir yn ystod eich apwyntiad. Yn achos plentyn, bydd angen llofnod gan riant neu warcheidwad cyfreithiol ar ddiwrnod y prawf. 

 

Mae'n bwysig bod eich gwallt yn lân ac nad oes unrhyw gynhyrchion arno. Byddai'n ddefnyddiol pe gallech olchi'ch gwallt y noson cyn y prawf a bydd angen i chi wneud hynny eto ar ôl i chi fynd adref. 

Os yw'r claf yn faban neu'n blentyn, byddai'n ddefnyddiol pe gallai mam neu dad ddod â diod/tegan/fideo gyda nhw.

Parhewch i gymryd eich meddyginiaeth arferol. Byddai rhestr ysgrifenedig o'r moddion rydych chi'n ei gymryd yn ddefnyddiol i'r ffisiolegydd.

EEG Hirfaith

Weithiau yn dilyn EEG arferol, byddwn yn anfon apwyntiad arall atoch am EEG hirfaith. Yr un fydd y weithdrefn hon, ond bydd yn recordio am ychydig oriau. Dewch â bwyd a diod gyda chi, a gwisgwch ddillad cyfforddus. Efallai hefyd y byddwch am ddod â DVD neu lyfr gyda chi. 

EEG Symudol

Yn yr achos hwn, bydd yr electrodau'n cael eu gwisgo am gyfnod o 24 awr. Bydd y disgiau'n cael eu gludo i groen y pen. Maent wedi'u cysylltu â pheiriant recordio bach wedi'i wisgo o gwmpas eich canol. 

Bydd yn cymryd tuag awr i 2 awr i'w osod. Bydd gwisgo dillad llac wrth y gwddf, dillad â botymau neu ddillad â sipiau yn caniatáu i chi newid eich crys neu flows yn haws.

Bydd angen gwisgo crys T a bydd y lidiau'n cael eu clymu wrtho gan ddefnyddio tâp gludo. Gwnewch yn siwr bod eich gwallt yn lân ac nad oes unrhyw gynhyrchion arno. Bydd yn rhaid goruchwylio plentyn drwy'r amser tra bydd yn gwisgo'r cyfarpar hwn.

Bydd angen i chi ddod i'r ysbyty drannoeth i dynnu'r cyfarpar. 

EEG Heb Gwsg

Er mwyn i'r prawf fod yn llwyddiannus, bydd yn rhaid i chi golli 4 awr o gwsg. Os ydych chi'n cysgu am 8 awr fel arfer, dylech gael 4 awr yn unig o gwsg y noson cyn y prawf. Os cewch saith awr fel arfer, yna dylech gael 3 awr yn unig o gwsg, ac ati. Os ydych chi ond yn cysgu am 4 awr y nos, peidiwch â chysgu'r noson cyn y prawf. Peidiwch â chysgu fore'r prawf.

Dylech fwyta cyn i chi gyrraedd yr adran ar gyfer eich prawf. Peidiwch ag yfed te, coffi nac alcohol wedi canol nos ddiwrnod y prawf. Gallwch barhau i yfed diodydd ysgafn nad ydynt yn cynnwys caffein.

Gallwch weld rhagor am y prawf yn ein taflenni i gleifion.

Dilynwch ni