Neidio i'r prif gynnwy

Profion Eraill

Potensial Corfforol-synhwyraidd a Ysgogwyd 

Mae Profion Potensial Corfforol-synhwyraidd a Ysgogwyd (SSEP) yn mesur pa mor gyflym mae nerf yn gweithio. Caiff disgiau eu gosod ar y pen a phadiau ar arwyneb croen y breichiau a/neu'r coesau. Yna, caiff y nerfau eu hysgogi. Mae hyn yn teimlo fel tapio neu oglais.

Nid oes gan y prawf unrhyw ôl-effeithiau.

Mae'n bwysig bod eich gwallt yn lân ac nad oes unrhyw gynhyrchion na chosmetigau eraill arno. Gwisgwch ddillad llac fel y gellir cael at y fferau, yr arddyrnau a'r ysgwyddau yn hawdd. Peidiwch â gwisgo gormod o fodrwyon/gemwaith, oherwydd gall fod angen eu tynnu ar gyfer y prawf.

Daliwch ati i gymryd eich meddyginiaethau arferol.

Meysydd y Golwg 

Yn y prawf arc, mae'n rhaid edrych ar un gwrthrych ac ymateb i ail wrthrych sy'n symud, i dynnu llun map o'ch golwg. Defnyddir clwt llygad er mwyn mapio pob llygad ar wahân. Os ydych chi'n gwisgo sbectol, dewch â hi gyda chi.

Myometreg

Mae'r prawf hwn yn mesur cryfder grwpiau cyhyrau amrywiol. Mae'n cymryd tua 30 munud. Gwisgwch ddillad cyfforddus sy'n addas ar gyfer ymarfer corff ysgafn.

 

Dysgwch ragor am y profion hyn yn ein taflenni i gleifion.

Dilynwch ni