Neidio i'r prif gynnwy

Profion VEP/ERG

Prawf Potensial Gweledol a Ysgogwyd 

Mae prawf Potensial Gweledol a Ysgogwyd (VEP) yn mesur y gweithgarwch trydanol yn system y golwg. Pan fydd golau o ddelwedd yn mynd i'ch llygad, caiff ei drawsnewid yn egni trydanol yn y retina, ac mae'n teithio drwy'r nerf optig i gortecs y golwg yn yr ymennydd, sy'n prosesu'r golwg.

Mae'r prawf yn cynnwys gosod nifer bach o electrodau ar eich pen gan ddefnyddio past. Gofynnir i chi wylio sgrin deledu neu olau sy'n fflachio. Bydd pob llygad yn cael ei phrofi ar wahân. Bydd hyn yn cymryd tua 45 munud. 

Prawf ElectroRetinoGram 

Mae ElectroRetinoGram (ERG) yn archwiliad diogel ac mae'n cynnwys gosod nifer o ddisgiau bach ar eich pen ac edafedd ar yr amrannau isaf i recordio gweithgarwch trydanol eich llygaid. Gofynnir i chi wylio sgrin deledu a goleuadau sy'n fflachio.

Gall y weithdrefn hon gymryd 2 i 3 awr i'w chwblhau.

Mae'n siwr y rhoddir diferion yn eich llygaid, a all bylu'ch golwg am hyd at chwe awr.

Ni fyddwch yn gallu gyrru adref ar ôl y prawf. Peidiwch â gwisgo colur ar ddiwrnod eich prawf. 

Mae'n bwysig bod eich gwallt yn lân ac nad oes unrhyw gynhyrchion ynddo. Byddai'n ddefnyddiol pe gallech olchi'ch gwallt y noson cyn y prawf a hwyrach y gall fod angen i chi ei olchi eto ar ôl cyrraedd adref. 

 

Gallwch weld rhagor am y prawf yn ein taflenni i gleifion.

Dilynwch ni