Neidio i'r prif gynnwy

Profion Niwroffisioleg

Mae'r Adran Niwroffisioleg yn cynnal amrywiaeth o brofion sy'n siartio gwahanol weithgareddau'r ymennydd a gweithgareddau niwrolegol.  Mae'r profion hyn yn cofnodi:

  • Ysgogiadau trydanol yn yr ymennydd (Electroenceffalogram).
  • Signalau trydanol sy'n teithio ar hyd nerfau yn y breichiau/coesau (Astudiaethau Dargludiad Nerfol).
  • Gweithgarwch trydanol yn y cyhyrau (Electromyogram).
  • Ymateb y retina (y llygaid) i gyffroad golau. (Electroretinogram/Potensial Gweledol a Ysgogwyd)
  • Ymatebion yr ymennydd a llinyn yr asgwrn cefn i botensialau a ysgogwyd. (Potensial Corfforol-synhwyraidd a Ysgogwyd)
Dilynwch ni