Neidio i'r prif gynnwy

Ffisiotherapi Plant yn y Gwasanaeth Niwrowyddoniaeth Pediatrig Acíwt

Brain shape with lit-up nerve structures

Mae’r ffisiotherapyddion arbenigol o fewn tîm Niwrowyddoniaeth Pediatrig Acíwt yn darparu gwasanaeth cleifion mewnol i blant yn dilyn anaf newydd i’r ymennydd neu salwch niwrofeddygol acíwt sy’n arwain at rwystrau yng ngallu’r plentyn i symud, cydbwyso neu gydlynu symudiadau. 

Mae hyn yn cynnwys

  • strôc
  • anaf i’r pen
  • ar ôl niwrolawdriniaeth
  • anaf i’r asgwrn cefn
  • llid yr ymennydd
  • epilepsi
  • Guillain Barre
  • cyflyrau demyelineiddio acíwt

Pan fydd angen, rydym hefyd yn asesu a llunio rhaglenni ar gyfer cleifion mewnol sy’n fabanod gyda phryderon niwrolegol neu ddatblygiadol. 

Rydym yn cydweithio’n agos â phlant a’u teuluoedd i sicrhau triniaethau penodol sy’n addas i nodau a phroblemau unigol yr unigolyn.

Triniaethau ffisiotherapi

Ein nod yw gwneud sesiynau mor hwyliog â phosibl a defnyddio gemau a theganau i annog symudiadau a gweithgarwch corfforol. Mae’r triniaethau yn cynnwys: 

  • Symud ac ymestyn breichiau a choesau 
  • Argymhellion ar gyfer ystumiau ddydd a nos 
  • Defnyddio offer i alluogi eistedd a sefyll yn gynnar 
  • Darparu mewnwadnau syml neu atgyfeirio ar gyfer orthoteg arbenigol (mewnwadnau) 
  • Ymarfer corff/chwarae cydbwysedd a chydsymud
  • Ymarferion cryfhau a chwarae 
  • Ailgyflwyno sgiliau symud swyddogaethol 
  • Ailaddysgu cerddediad 
  • Hydrotherapi
  • Ysgogiad Trydanol Swyddogaethol 

Lle rydym yn gweithio

Yn achos plant sydd ag anghenion adsefydlu hirach, rydym yn cydweithio’n agos gyda’r teulu, Therapi Galwedigaethol a chydweithwyr Diagnosis a Therapi Meddygol eraill i geisio hwyluso gwyliau penwythnos, er mwyn caniatáu amser teuluol gyda’i gilydd a gosod nodau therapi newydd i weithio tuag atynt.  

Rydym yn cynnal sesiynau ar y cyd gyda chydweithwyr mewn arbenigeddau ffisiotherapi pediatrig eraill, yn ogystal â Therapyddion Iaith a Lleferydd a Therapyddion Galwedigaethol. Mae gennym rôl allweddol o fewn y Tîm Niwroadsefydlu ac rydym yn cysylltu’n agos â therapyddion cymunedol i sicrhau bod cleifion yn cael eu rhyddhau adref yn ddiogel neu i ysbytai lleol. 

Gwefannau defnyddiol

Dilynwch ni