Neidio i'r prif gynnwy

Ffisiotherapi Niwrogyhyrol i Blant

Mae’r gwasanaeth ffisiotherapi niwrogyhyrol arbenigol wedi ei leoli yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.

Bydd ffisiotherapydd yn cymryd rhan yng ngofal a rheoli cleifion sydd ag anhwylderau niwrogyhyrol ar draws de-ddwyrain Cymru.

Mae’r gwahanol fathau o anhwylderau niwro-gyhyrol yn cynnwys:

  • Dystroffi’r Cyhyrau Duchenne 
  • Dystroffi’r Cyhyrau Becker 
  • Dystroffi Cyhyrol Gwregysau’r Aelodau 
  • Dystroffi Cyhyrol
  • Cynhenid – Bethlem, Ullric, Asgwrn Cefn Anhyblyg, diffyg Merosin 
  • Dystroffi’r Cyhyrau Facioscapulohumeral 
  • Dystroffi’r Myotonig 
  • Niwropathïau Ymylol – Charcot-Marie Tooth / Niwropathi Modur Synhwyraidd Etifeddol 
  • Myopathïau Cynhenid – Nemaline, Myotubular, Craidd Canolog 
  • Syndrom Myasthenig Cynhenid 
  • Astroffi’r Cyhyrau Sbinol – Math I, Math II a Math III

Triniaethau Ffisiotherapi

Fel arfer mae cleifion yn cael eu hadolygu ochr yn ochr â niwrolegydd pediatrig ac ymgynghorydd gofal mewn clinig i helpu i gefnogi, cynghori a chydlynu eu gofal lleol.

Bydd y ffisiotherapydd arbenigol yn adolygu ac yn asesu cleifion yn glinigol bob 6-12 mis er mwyn monitro gweithgaredd y cleifion a chynghori ar ymyrraeth amserol gyda’r tîm amlddisgyblaethol ehangach. Bydd y ffisiotherapydd yn cysylltu â’r claf a’i deulu pan fydd yn cael llawdriniaeth.

Mae cyfranogiad therapi yn cynnwys:   

  • Cyngor arbenigol ymarferol i’r claf, ei deulu a’i ysgol 
  • Rhaglenni ymarfer corff neu ymestyniadau
  • Defnyddio offer megis fframiau cerdded, fframiau sefyll, cadeiriau olwyn, orthoteg 

 

Gwefannau defnyddiol

Manylion cyswllt

Rhif ffôn: 02921 841960   

Dilynwch ni