Neidio i'r prif gynnwy

Ffisiotherapi Plant ar gyfer Orthopedeg a Thrawma

Hand in bandages

Mae Ffisiotherapyddion Pediatrig yn aelodau allweddol o’r tîm sy’n gofalu am gleifion a gaiff eu derbyn i gael gofal Trawma ac Orthopedig yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru. Mae’r gwasanaeth yma ar gael 7 diwrnod yr wythnos, er bod gwasanaeth cyfyngedig ar y penwythnosau.

Mae Ffisiotherapydd yn chwarae rhan hanfodol o fewn tîm amlddisgyblaethol Meddygon, Nyrsys, Therapyddion Galwedigaethol a Therapyddion Chwarae. Rydym yn cydweithio i adsefydlu cleifion fel eu bod yn adennill y sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnynt i gael eu rhyddhau adref yn ddiogel.

Er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cyrraedd ei ganlyniad corfforol gorau, rydym yn darparu cyngor ac ymarferion i’w wneud gartref. Rydym hefyd yn cysylltu â thîm ffisiotherapi’r plentyn yn y gymuned neu wneud atgyfeiriad newydd ar gyfer ffisiotherapi parhaus i sicrhau bod iachâd neu adferiad yn parhau gartref.

Trawma

Mae cleifion trawma yn cael eu derbyn i’r ysbyty yn ddirybudd pan fydd aelod, cymal neu feinwe meddal yn cael ei anafu neu ei ddifrodi. Gall hyn gynnwys:  

  • torasgwrn
  • datgymaliadau
  • heintiau
  • anafiadau meinwe meddal 

Mae’r anafiadau hyn yn gallu cael eu rheoli gyda meddyginiaethau lleddfu poen, sblintiau, plastrau, ymarferion neu, pan fydd angen cynorthwyo iachâd neu adferiad, ar ôl llawdriniaeth.

Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru yw’r unig Ganolfan Trawma Pediatrig Mawr yng Nghymru ac mae’n ffurfio rhan o Rwydwaith Trawma De Cymru. (Mae plant o ogledd Cymru yn cael gofal yn Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl.)

Mae plant sy’n cael eu derbyn i’r Ganolfan Trawma Mawr fel arfer wedi cael anafiadau sylweddol. Trwy gydol eu hamser yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, bydd Ffisiotherapyddion yn cydlynu ac yn darparu adsefydliad y cleifion hyn.

Orthopedig

Cleifion orthopedig yw’r rhai sy’n cael eu derbyn am lawdriniaeth wedi’i chynllunio i gymal neu aelod. Mae hyn yn cynnwys:

  • llawdriniaeth ar y cymalau clun, penglin, troed neu bigwrn
  • llawdriniaeth i’r cyhyrau, tendonau neu ligamentau
  • pigiadau BOTOX
  • llawdriniaeth ar yr asgwrn cefn ar gyfer cyflyrau fel sgoliosis  

Mae ffisiotherapyddion pediatrig yn ymwneud â chynllunio ar gyfer derbyn y claf cyn ei lawdriniaeth ac yn cynnig asesiad ac adsefydlu ar ôl y llawdriniaeth, i baratoi’r claf ar gyfer ei ryddhau a threfnu atgyfeiriad at ffisiotherapi parhaus.

Mae triniaeth yn gallu digwydd wrth ymyl gwely’r claf, yn yr ystafell therapi ward, yn y gampfa ffisiotherapi neu yn y pwll hydrotherapi.

Ein nod yw gwneud y sesiynau mor hwyliog â phosibl a defnyddio gemau a theganau i annog gweithgarwch corfforol a symudiadau.

Gwefannau defnyddiol

Cyflyrau’r Cyhyrau, Cymalau ac Esgyrn - Cadw Fi'n Iach

Dilynwch ni