Neidio i'r prif gynnwy

Ffisiotherapi Plant ar gyfer Oncoleg a Haematoleg

Mae’r Ffisiotherapyddion Pediatrig yn y tîm Oncoleg a Haematoleg yn gweld plant a phobl ifanc sydd ag ystod o broblemau cysylltiedig â’u diagnosis neu driniaethau gan gynnwys:

  • sawl math o ganser
  • clefyd anaemia cryman gell
  • anhwylderau gwed eraill

Mae gennym brofiad arbenigol o weithio gyda phlant sy’n cael cemotherapi, radiotherapi, plant sydd wedi cael llawdriniaeth, trawsblaniadau mêr yr esgyrn / bôn-gelloedd a therapi pelydr Proton. Nod ein gwaith yw optimeiddio gweithrediad a datblygiad corfforol eich plentyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth.

Triniaethau ffisiotherapi

Mae’r triniaethau rydym yn eu cynnig yn cynnwys:   

  • Ymarferion Cryfhau
  • Ymarferion Ymestyn
  • Chwarae datblygiadol
  • Ymarferion cydbwysedd a chydsymud
  • Cyngor gosod ac ystum
  • Sblintio
  • Ymarfer cerdded ac ailddysgu cerdded, gan gynnwys defnyddio cymhorthion cerdded
  • Cyngor ar ymarfer corff addas i reoli blinder, gwella neu gynnal ffitrwydd
  • Ffisiotherapi ar y frest – ymarferion i helpu anadlu a gallu eich plentyn i glirio sbwtwm
  • Hydrotherapi (ymarferion mewn dŵr)

Bydd triniaeth yn dibynnu ar asesu anghenion a thaith driniaeth unigol eich plentyn.

Mae’r Ffisiotherapyddion yn gyfarwydd â’r cyfarpar meddygol niferus sy’n gallu gwneud symud yn anodd i’ch plentyn – fel llinellau Hickman, Portacath a PICC. Rydym yn gallu eich cynghori ynglŷn â sut i reoli’r rhain yn ddiogel gan gadw’r person ifanc mor actif â phosibl. 

Mae gennym berthynas wych gyda’n tîm Therapi Chwarae profiadol ac rydym yn cydweithio’n agos er mwyn helpu pob plentyn i gyflawni ei botensial, yn aml drwy defnyddio chwarae i gyflawni nodau eich plentyn. Mae’r tîm Ffisiotherapi yn gweithio’n rheolaidd gydag aelodau eraill o’r tîm hefyd, gan gynnwys Therapyddion Galwedigaethol, Orthotyddion, Therapyddion Iaith a Lleferydd, Deietegwyr, yn ogystal â’r Meddygon a’r Nyrsys.

Ble rydym ni

Mae ffisiotherapi yn cael ei gyflwyno’n bennaf ar ward Enfys lle mae gennym bresenoldeb rheolaidd, ac mewn gwelyau dydd, gan ein galluogi

i ymateb yn gyflym i unrhyw bryderon symudedd neu ddatblygiad sy’n cael eu codi gan gleifion, teuluoedd neu’r tîm gofal iechyd.

Rydym hefyd yn adolygu cleifion yng nghlinig cleifion allanol Rocket ac ar ward Teenage Cancer Trust, lle gallwn weithio gyda phobl ifanc hyd at eu pen-blwydd yn 16 oed. 

Fel canolfan ranbarthol, rydym yn cydweithio’n agos â gwasanaethau Ffisiotherapi cymunedol lleol ar draws de, canolbarth a gorllewin Cymru i sicrhau bod anghenion Ffisiotherapi Plant a Phobl Ifanc yn parhau i gael eu diwallu os ydyn nhw yn yr ysbyty neu gartref. 

Gwefannau defnyddiol

Cyclists Fighting Cancer
Move Against Cancer
Children’s Cancer and Leukaemia Group

Manylion cyswllt

Prif Ffisiotherapydd: Ann Baldwin     

Rhif cyswllt: 02921 843670   

Dilynwch ni