Neidio i'r prif gynnwy

Ffisiotherapi Plant

Amdanom Ni

Croeso i’r Gwasanaeth Ffisiotherapi Cymunedol Plant ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Rydym yn dîm o Ffisiotherapyddion, sy'n aelodau cofrestredig o'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), Hyfforddwyr Technegol Ffisiotherapi hyfforddedig, a staff gweinyddol. Rydym yn darparu gwasanaeth Ffisiotherapi Plant a Phobl Ifanc arbenigol i blant a phobl ifanc sy'n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae gennym ddealltwriaeth eang o ddatblygiad plant a chyflyrau plentyndod, gan gynnwys problemau datblygiadol, niwrolegol a chyhyrysgerbydol.

Fel Ffisiotherapyddion Pediatrig rydym yn arbenigo mewn gweithio gyda phlant. Mae ffisiotherapyddion yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n hyrwyddo adferiad ac yn helpu pobl i wneud y mwyaf o'u gallu, yn dilyn salwch, anabledd neu anaf. Rydym yn helpu i wella ac adfer gallu drwy weithgarwch corfforol fel ymarfer corff a symud, yn ogystal â darparu cyngor arbenigol ac adnoddau.

Yr hyn y gallwn ei ddarparu:

  • Asesiad a thriniaeth ffisiotherapi
  • Mynediad i gyfleusterau arbenigol, os yw'n briodol, fel therapi dyfrol
  • Mewnbwn ffisiotherapi mewn amrywiaeth o leoliadau, yn seiliedig ar anghenion y plentyn, gan gynnwys yn y cartref, yn y feithrinfa neu'r ysgol
  • Hyfforddiant a chyngor arbenigol i rieni/gofalwyr a phobl eraill sy'n ymwneud â'ch plentyn
  • Asesu a darparu offer ffisiotherapi arbenigol pan fo angen
  • Gweithio ar y cyd gyda gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd, addysg a gofal cymdeithasol 
Ffisiotherapi Cleifion Allanol i Blant
Cyflyrau Cyffredin Sy'n Cael Eu Trin Gan yr Adran Ffisiotherapi i Blant
Datblygiad corfforol
Cyflyrau'r Cyhyrau, Cymalau ac Esgyrn
Hand in bandages
Ffisiotherapi Plant ar gyfer Orthopedeg a Thrawma
Ffisiotherapi Niwrogyhyrol i Blant
Ffisiotherapi Plant ar gyfer Oncoleg a Haematoleg
Brain shape with lit-up nerve structures
Ffisiotherapi Plant yn y Gwasanaeth Niwrowyddoniaeth Pediatrig Acíwt

I ddechrau, bydd angen i ni gwblhau asesiad o'r plentyn/person ifanc, yn seiliedig ar y rheswm dros eu hatgyfeiriad. Mae hyn yn cynnwys casglu gwybodaeth gan rieni/gwarcheidwaid cyfreithiol a ffynonellau eraill. Efallai y bydd angen i ni wneud arsylliad ac archwiliad corfforol. Gall hyn gynnwys edrych ar gryfder a chydsymudiad, datblygiad echddygol, osgo, cydbwysedd, gweithrediad a galluoedd y plentyn.

Yn dilyn asesiad, gwneir penderfyniad ynghylch a all y plentyn/person ifanc gael budd o raglen gofal ffisiotherapi. Gyda'n gilydd byddwn yn trafod opsiynau triniaeth ac yn cytuno ar nodau therapi clir, realistig. Mae'n bwysig bod rhieni/gwarcheidwaid cyfreithiol yn llawn cymhelliant ac yn ymwneud â chyflwyno ac annog eu plentyn i wneud eu rhaglen ffisiotherapi. Gall hyn gynnwys gweithgareddau, ymarferion penodol neu gyngor i'w rhoi ar waith gartref/ mewn ysgol/ meithrinfa.

Rydym yn darparu asesiad a thriniaeth ffisiotherapi mewn cyfnodau gofal. Mae hyn yn golygu, yn dilyn cwrs o fewnbwn ffisiotherapi, y byddant yn cael eu rhyddhau. Os oes angen mewnbwn ffisiotherapi pellach ar eich plentyn yn ddiweddarach, gellir eu hail-atgyfeirio, neu eu hunan-atgyfeirio'n ôl at y gwasanaeth ffisiotherapi.

Mae ein Ffisiotherapyddion Pediatrig yn y gymuned yn darparu gwasanaeth i blant a phobl ifanc ledled Caerdydd a Bro Morgannwg yn ein clinigau cleifion allanol, ysgolion arbennig ac ysgolion prif ffrwd.

Mae ein clinigau cleifion allanol yn:

  • Canolfan Plant Dewi Sant
  • Canolfan Plant Llandochau
  • Adran Cleifion Allanol Dolffin, Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, Ysbyty Athrofaol Cymru

Ein hysgolion arbennig sydd â ffisiotherapyddion ar y safle yw:

  • Ysgol y Deri, Penarth a Thŷ Gwyn, Caerdydd

Gellir darparu mewnbwn ffisiotherapi arbenigol hefyd ar gyfer plant ag anawsterau symud ac osgo mewn lleoliadau ysgol prif ffrwd.

Rydym yn derbyn atgyfeiriadau o amrywiaeth o ffynonellau. Unwaith y derbynnir atgyfeiriad byddwn yn cynnig apwyntiad yn yr amgylchedd y tybir ei fod yn fwyaf priodol.

Mae'r rhestr ganlynol yn enghreifftiau o resymau dros atgyfeirio:

  • Anhwylderau niwrolegol
  • Cyflyrau niwrogyhyrol
  • Babanod a phlant ag oedi wrth ddatblygu sgiliau echddygol gros
  • Trawma orthopedig, fel toriadau a datgymaliadau
  • Cyflyrau orthopedig
  • Adsefydlu ar ôl llawdriniaeth
  • Anaf cyhysgerbydol, poen a chamweithrediad
  • Cyflyrau rhewmatolegol

Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos pryd NAD yw ffisiotherapi yn briodol, ond nid yw'n gyfyngedig i’r enghreifftiau hyn:

  • Plant sydd â chloffni poenus — siaradwch â'ch meddyg teulu ar frysPlagioceffali (pen gwastad)
  • Bysedd traed cyrliog sy'n gorgyffwrdd
  • Gwahaniaeth yn hyd y goes — siaradwch â meddyg teulu ar frys os yw'n dechrau’n sydyn neu'n boenus
  • Traed yn troi i mewn (intoeing) a gliniau cam
  • Traed gwastad — mae hyn yn normal mewn plant dan 4 oed. Os yw'n boenus siaradwch â'ch meddyg teulu ac ystyriwch atgyfeiriad at yr adran bodiatreg - edrychwch ar y daflen.
  • Cwympiadau — mae'r rhain yn normal tan tua 5 mlwydd oed
  • Poen cyson
  • Poen asgwrn cefn gyda phoen yn ymestyn i’r breichiau neu goesau. Os yw'n gysylltiedig â newid mewn teimlad, gweithrediad y bledren neu'r coluddyn, y ffordd rydych chi'n cerdded, neu ar ôl damwain ceisiwch gyngor meddygol brys.
  • Poen cefn mewn plant o dan 6 oed
  • Poen yn y gwddf gyda phendro, problemau lleferydd neu lyncu newydd, llewygu, golwg ddwbl, cyfog, neu ddim teimlad yn yr wyneb
  • Torticollis sy’n cychwyn yn sydyn mewn plentyn (pen wedi'i ogwyddo i un ochr)

Darperir gwasanaethau Ffisiotherapi Cymunedol fel arfer o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.30am i 4.30pm.

Hunan-atgyfeiriadau:

Gallwch atgyfeirio'ch plentyn at y gwasanaeth hwn drwy gysylltu â'n canolfan weinyddu. Gweler yr wybodaeth o dan 'Atgyfeiriadau' ynghylch a yw gwasanaethau Ffisiotherapi Cymunedol yn iawn i chi a'ch teulu.

I wneud hunan-atgyfeiriad ffoniwch ni ar y rhif isod.

Canolfan Weinyddiaeth Ffisiotherapi
Tŷ Coetir
Ffordd Maes-y-Coed
Caerdydd CF14 2T

Rhif ffôn: 02921 836908
 

Atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol:

Dylai atgyfeiriadau ar gyfer cleifion sy’n cael eu trefnu gan weithwyr proffesiynol (e.e. Ymwelydd Iechyd, Pediatregydd) gael eu gwneud yn electronig drwy PARIS neu WAP.

Dilynwch ni