Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydwaith CHD

Logo Rhwydwaith Clefyd Cynhenid y Galon De Cymru a

Mae Rhwydwaith Clefyd Cynhenid y Galon De Cymru a'r De Orllewin (Rhwydwaith CHD) yn dwyn ynghyd glinigwyr, rheolwyr, cynrychiolwyr cleifion/ teuluoedd a chomisiynwyr o bob rhan o'r rhanbarth, sy'n gweithio gyda'i gilydd i gefnogi cleifion o bob oed sydd â chyflwr cynhenid y galon, a'u teuluoedd/ gofalwyr.

Mae'r rhwydwaith yn cynnwys:

  • 18 darparwr i oedolion ac 19 darparwr pediatreg, yn ymwneud â gwasanaethau lefel 1 (llawfeddygol arbenigol), lefel 2 (meddygol arbenigol) a lefel 3 (canolfan leol)
  • Dros 6,500 o blant ac 8,000 o oedolion â phroblemau cynhenid y galon
  • 30 clinig yr wythnos, gan weld mwy na 20,000 o gleifion allanol y flwyddyn
  • Dros 40 o nyrsys arbenigol
  • 37 pediatregydd ag arbenigedd mewn cardioleg
  • 17 cardiolegydd oedolion sydd â diddordeb cynhenid arbenigol
  • Dros 425 o lawdriniaethau'r galon y flwyddyn
  • 11 cynrychiolydd cleifion a theuluoedd
  • Tîm rhwydwaith craidd, sy'n cynnwys Cyfarwyddwr Clinigol, Rheolwr, Arweinydd a Gweinyddwr (i gyd yn rhan-amser).

Mae'r tîm Rhwydwaith yn cael ei gynnal gan Ysbytai Athrofaol Bryste, ond mae'n gorff annibynnol ac yn atebol i aelodau ei Fwrdd.