Neidio i'r prif gynnwy

Clinigau ACHD


DIWEDDARIAD COVID-19


Ar hyn o bryd, ar gyfer mwyafrif ein cleifion byddwn yn parhau ag ymgynghoriadau rhith-glinigau (h.y. dros y ffôn/ cyswllt fideo).

Pe byddem yn penderfynu gyda chi dros y ffôn bod angen i chi fynychu'r ysbyty i gael archwiliad neu driniaeth bellach, byddwn yn eich hysbysu ynghylch ble a phryd y bydd yn bosibl.

Efallai y byddwn yn cynnig apwyntiad wyneb yn wyneb os oes angen brys, ond gall hyn newid gan ddibynnu ar argaeledd y tîm.

Byddwch yn ymwybodol oherwydd y pandemig efallai y bydd oedi gydag apwyntiadau dilynol ac rydym yn ceisio ein gorau i weithio trwy hyn.

Diolch am eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth yn ystod yr amser digynsail hwn.

Llinell cyngor nyrsio arbenigol ACHD : 02920 744 580
Cydlynydd ACHD: 02920 743 892


Cynhelir clinigau yn yr ysbytai canlynol:

  • Ysbyty Athrofaol Cymru, (Caerdydd a'r Fro)
  • Ysbyty Cwm Rhondda (Cwm Taf)
  • Ysbyty'r Tywysog Siarl (Cwm Taf)
  • Ysbyty Singleton (Abertawe Bro Morgannwg)
  • Castell-nedd Port Talbot (Abertawe Bro Morgannwg)
  • Ysbyty Tywysoges Cymru (Abertawe Bro Morgannwg)
  • Ysbyty Glangwili (Hywel Dda)
  • Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg (Hywel Dda)
  • Ysbyty Ystrad Fawr (Aneurin Bevan)

Yn ogystal â'r clinigau ACHD lleol hyn, bydd pob Bwrdd Iechyd lleol yn cynnal Clinig Pontio ddwywaith y flwyddyn. Mae YAC yn cynnal Clinig Cardiofasgwlaidd-Obstetreg ar y Cyd bob pythefnos i ofalu am ferched beichiog sydd â chlefyd y galon a'r rhai sy'n ystyried beichiogrwydd.

Clinigau Perifferal

Ysbyty Athrofaol Bryste yw ein canolfan lawfeddygol arbenigol lefel 1 ACHD. Rydym yn gweithio ar y cyd â'r tîm i ddarparu ymyrraeth lawfeddygol a chardioleg gymhleth i'n cleifion.

Gallwch gysylltu â switsfwrdd Ysbyty Brenhinol Bryste ar 0117 923 0000.