Gall unrhyw nifer o ffactorau achosi alergeddau – mae cynhyrchion naturiol yr un mor debygol o achosi adweithiau â rhai artiffisial.
Achosion mwyaf cyffredin alergeddau yw:
- Paill coed/glaswellt (Clwy'r gwair)
- Gwiddon llwch
- Anifeiliaid
- Bwyd
- Pigiadau pryfed
- Meddyginiaethau
- Llwydni
- Defnydd glanhau'r cartref
Symptomau Alergedd
Er bod symptomau alergedd yn annymunol, anaml y byddant yn ddifrifol, ac nid ydynt yn peri gormod o ofid. Fodd bynnag, mae rhai adweithiau'n ddifrifol ac mae gofyn sylw meddygol arnynt ar unwaith (gweler isod).
Symptomau mwyaf cyffredin alergeddau yw:
- Tisian neu drwyn coslyd/diferol/llawn
- Llygaid dyfrllyd, coch, coslyd
- Brech goch goslyd, chwyddedig
- Croen sych, coch neu wedi cracio
- Gwefusau, tafod neu wyneb wedi chwyddo – Cofiwch y gall y rhain fod yn symptomau cynnar o adwaith difrifol
Adwaith Alergaidd Difrifol (Anaffylacsis)
Mewn achosion prin iawn, gall alergedd fod yn ddifrifol a gall arwain at anaffylacsis a/neu sioc anaffylactig, sy'n gallu bygwth bywyd. Mae hyn yn effeithio ar y corff cyfan ac yn digwydd o fewn munudau i'r cysylltiad.
Mae'r symptomau'n cynnwys:
- Chwyddo'r gwddf a'r geg
- Anhawster yn anadlu
- Penysgafnder
- Dryswch
- Ymgwympo a cholli ymwybyddiaeth
Sut mae lleihau effeithiau alergeddau gymaint â phosibl
- Weithiau, efallai na fydd yn bosibl nodi beth sy'n achosi alergedd, ond os gallwch enwi'r hyn sy'n achosi'r alergedd, gallai'r cyngor canlynol fod o gymorth:
- Osgoi cyswllt ag alergenau os oes modd
- Gofyn am fanylion cynnwys bwyd cywir os oes alergeddau bwyd arnoch
- Cymryd gwrth-histaminau ar adegau pan fyddwch yn debygol o gael adwaith
- Efallai bydd gofyn i gleifion sydd ag alergeddau difrifol gario ‘Epi-pen’ – byddant yn cael hwn ar bresgripsiwn gan arbenigwr a bydd hyfforddiant yn cael ei roi ar sut i'w ddefnyddio
Sylw gan Feddyg Teulu/Ymarferwr Clinigol
Pwyntiau Allweddol
- Nid yw'r rhan fwyaf o alergeddau'n ddifrifol ond pe byddech yn datblygu adwaith difrifol byddai angen ichi gael cymorth meddygol ar unwaith
- Os oes mân alergedd arnoch, gallwch fynd i'ch Fferyllfa leol, lle cewch gyngor am achosion posibl a'r driniaeth sy'n ofynnol
- Os oes gennych alergedd i widdon llwch, gallai glanhau'n rheolaidd â sugnydd llwch helpu
- Gall meddyginiaeth achosi symptomau alergedd, yn enwedig pan fydd yn newydd. Gallwch siarad â'ch Fferyllydd a fydd yn gallu helpu
- Efallai bydd cael anifeiliaid anwes yn cynyddu risg alergedd, yn enwedig os ydych yn sensitif iddynt neu'r alergenau y gallent fod yn eu cario
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG