Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd a Llesiant yn y Gweithle

Mae Iechyd a Llesiant yn y gwaith yn ymwneud â'r sefydliad, ei staff a'i undebau llafur ac, weithiau, asiantaethau allanol yn gweithio gyda'i gilydd i wella'r amgylchedd gwaith. Cyflawnir hyn trwy hyrwyddo cyfranogiad gweithredol mewn gweithgareddau iechyd ac o wneud hynny, cynnal a gwella iechyd y gweithlu.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i annog diwylliant lle mae iechyd a llesiant staff yn flaenoriaeth i bawb. Gyda hyn mewn golwg, rydym wedi datblygu calendr blynyddol fel y gall pobl hyrwyddo a chymryd rhan yn yr ymgyrchoedd perthnasol. Cliciwch ar y ddelwedd isod i ehangu.

Health and Wellbeing Calendar 2018

Mae gan bob gweithiwr gyfrifoldeb personol i gynnal ei iechyd a'i lesiant ei hun i sicrhau ei fod yn gallu cyflawni gofynion y swydd.

Mae'r Sefydliad wedi datblygu Canllawiau Hyrwyddo Gweithgaredd Corfforol yn y Gweithle i annog cyfranogiad mewn ymarfer corff rheolaidd a hyrwyddo gweithgaredd corfforol fel rhan o'r diwrnod gwaith gan ddefnyddio arwyddion ysgogol a nodiadau atgoffa.

Gwasanaethau sydd ar gael i'ch helpu i gynnal eich iechyd yn y gweithle

Remploy
Mynediad i waith
Iechyd Galwedigaethol
Gwasanaethau Ffisiotherapi
Gwasanaeth Llesiant Gweithwyr
Adran Iechyd a Diogelwch

Atal a Rheoli Heintiau

Adnoddau sydd ar gael

Polisi Camddefnyddio Alcohol, Cyffuriau a Sylweddau
Taflenni Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
Dewis cadair i gynnal eich cefn
Offer Sgrin Arddangos a Gweithdrefn Prawf Llygaid
Ymarferion i weithwyr swyddfa
Polisi Gweithio Hyblyg
Polisi Iechyd a Diogelwch
Materion Llesiant Rheolwyr
Polisi Trin â Llaw
Polisi Dim Ysmygu
Dodrefn swyddfa - gofalu am eich cefn
Mae ein Llesiant yn Bwysig
Hunanofal a Hunangymorth yn ystod proses ffurfiol

 

Dilynwch ni