Neidio i'r prif gynnwy

Profion Preifat / Masnachol

Mae'r Adran Biocemeg Feddygol ac Imiwnoleg yn cynnig gwasanaeth profion preifat. Mae ein cwsmeriaid yn cynnwys clinigau preifat ac ysbytai, labordai masnachol, adrannau'r sector cyhoeddus a chwmnïau preifat.

Ceir amrywiaeth eang o wasanaethau. Mae'r gwasanaethau cyfredol a ddarperir yn cynnwys:

  • gwiriadau iechyd arferol
  • profion alergedd
  • profion ffrwythlondeb
  • elfennau hybrin
  • profion penodol unigol y gofynnir amdanynt trwy ofal iechyd preifat.

Ceir profion ar sail unigol, neu fel pecyn.

I gael rhestr lawn o'r profion a ddarperir, ewch i'n tudalen hafan lle gallwch chwilio am brawf penodol, neu weld ein dogfennau repertoire profion.

Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth neu i drafod eich gofynion.

Gwybodaeth i Gleifion

Ni all cleifion nac aelodau unigol o'r cyhoedd gael mynediad uniongyrchol i'r gwasanaethau labordy hyn - mae angen atgyfeiriad gan feddyg teulu neu feddyg arbenigol (yn dibynnu ar y cyflwr dan sylw). Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwasanaethau preifat sydd ar gael a sut y gallwch chi neu'ch teulu gael mynediad at y rhain, cysylltwch â'ch meddyg teulu i drafod.

Cyswllt

Lucy Jones (Cydlynydd Profion Preifat) - lucy.jones6@wales.nhs.uk

Dilynwch ni