Gall unrhyw aelod o staff BIP Caerdydd a'r Fro hunan-atgyfeirio at wasanaeth deieteg y staff.
Mae'r rhain yn gyfres o sesiynau addysg bwyta'n iach unwaith ac am byth i staff. Byddant yn ymdrin â gwahanol bynciau trwy gydol y flwyddyn a bydd sesiynau'n para rhwng 1 awr 15 munud i 1 awr 30 munud.
Rhaglen addysg grŵp strwythuredig 8 wythnos yw hon ar gyfer y rhai sy'n ceisio colli pwysau. Mae hwn yn grŵp sydd ar gyfer staff BIP yn unig.
Os na allwch fynychu'r sesiynau grŵp neu y byddai'n well gennych siarad â'r dietegydd mewn clinig un i un i gael cefnogaeth gyda'ch pwysau, mae clinigau ar gael o fewn iechyd galwedigaethol.
Sesiwn Ymwybyddiaeth Diabetes (DAS)
Sesiwn blasu 2 awr unwaith ac am byth yw hon ar gyfer staff BIP, i ddarparu gwybodaeth rheng flaen am hunanreoli eich diabetes. Yna gall hyn arwain at atgyfeiriad i'r rhaglen diabetes X-PERT os ydych chi'n dymuno dysgu mwy. Cysylltwch â'r Gwasanaeth Deieteg i gael dyddiadau'r sesiynau sydd ar y gweill.
X-PERT Diabetes
Rhaglen addysg grŵp strwythuredig 6 wythnos yw hon a ddyluniwyd i'ch helpu i fyw o ddydd i ddydd gyda'ch diabetes math 2. Ar hyn o bryd, grŵp cymysg yw hwn, yn cynnwys aelodau'r cyhoedd a staff BIP. Nid oes angen i chi fynychu'r sesiwn ymwybyddiaeth Diabetes i fynychu X-PERT.
Os oes gennych unrhyw broblemau eraill yn ymwneud ag iechyd y gellid eu gwella trwy gymorth deietig e.e. IBS, clefyd coeliag, diffyg maetholion penodol neu gyflwr arall, bydd y gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol neu chi'ch hun yn gallu eich atgyfeirio i'r clinig staff deieteg.
Sut i gael mynediad i'r Gwasanaeth Deieteg Staff
Gall staff hunan-atgyfeirio i unrhyw un o'r rhaglenni grŵp neu i'r clinig staff trwy gwblhau'r ffurflen atgyfeirio neu trwy gysylltu â'r adran ddeieteg trwy e-bost, ffôn neu lythyr i gofrestru diddordeb. Gweler y manylion cyswllt isod.
Gall y nyrsys Iechyd Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion hefyd lenwi ffurflen atgyfeirio ar eich cyfer chi.
Yn yr un modd â phob asesiad a wneir gan Iechyd Galwedigaethol, mae'r asesiad dieteg yn gwbl gyfrinachol. Os ydych wedi cael eich atgyfeirio gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol, anfonir llythyrau yn ôl at yr atgyfeiriwr yn eu hysbysu eich bod wedi mynychu grwpiau neu apwyntiadau un i un.
Am unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â ni:
Ffôn: 029 2066 8089
Ffacs: 029 2090 7672
E-bost mewnol: Dietitian.reception.uhw@wales.nhs.uk Pwnc: Gwasanaeth Iechyd Staff
Post: Ymholiadau i sylw:
Heidy Arnot
Adran Deieteg y Gymuned,
Canolfan Iechyd Glan yr Afon,
Wellington Street,
Treganna,
Caerdydd
CF11 9SH