Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Bwyta Am Oes i Staff

Rhaglen Colli Pwysau a ddarperir gan Ddietegwyr Iechyd Staff BIP Caerdydd a'r Fro

Mae Bwyta am Oes yn rhaglen grŵp gefnogol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl sy'n ceisio colli pwysau. Mae'r rhaglen yn para am 8 wythnos ac yn rhedeg unwaith yr wythnos, gyda phob sesiwn yn para am 1 awr 15 munud. Mae'r grwpiau'n gymysgedd o ddynion a menywod dros 18 oed sy'n gweithio i'r BIP. Mae'r rhaglen Bwyta am Oes yn cael ei rhedeg ar draws safleoedd BIP ar wahanol adegau o'r dydd. Mae cyfle i fynychu grŵp cefnogol parhaus misol ar gael ar ôl cwblhau'r rhaglen.

Nod y grŵp hwn yw cynnig cefnogaeth barhaus wrth symud ymlaen gyda newidiadau i'ch ffordd o fyw.

Mae'r rhaglen yn cael ei rhedeg gan ddietegydd cymwys gan ddefnyddio egwyddorion a strategaethau cyfweld ysgogol a newid ymddygiad i hyrwyddo newidiadau positif tymor hir i ffordd o fyw.

Cwblhewch y ffurflen atgyfeirio nawr i sicrhau eich lle.


Testunau a Drafodir

  • Disgwyliadau, colli pwysau yn realistig, buddion colli pwysau
  • Canllaw bwyta a rheoli dognau, cynllun staff unigol
  • Beth sydd ynddo i mi? Buddion i newid
  • Bod yn fwy egnïol
  • Addasiadau cynllunio a bwydlen
  • Labeli bwyd
  • Ennill rheolaeth ar eich arferion bwyta
  • Rheoli pwysau a rheoli pyliau o lithro

Cwestiynau Cyffredin gan gyfranogwyr

  • Beth os na allaf fynychu'r dyddiadau/ lleoliad/ amser grŵp a gynlluniwyd? Os na allwch fynychu'r dyddiadau a gynlluniwyd ar gyfer y rhaglenni Bwyta am Oes, bydd lleoliadau ac amseroedd eraill yn cael eu hystyried ar gais, yn dibynnu ar y galw. Os na allwch ddod i un o'r sesiynau wythnosol o fewn rhaglen, efallai y gallwch fynychu'r wythnos rydych wedi ei cholli mewn rhaglen wahanol.
  • A fydd yn rhaid i mi bwyso o flaen pobl? Gallwch gael eich pwyso bob wythnos os ydych chi eisiau, ond ni fydd eich pwysau yn cael ei rannu gyda'r grŵp.
  • A fydd rhaid imi siarad o flaen eraill? Mae trafodaeth yn rhan ddefnyddiol o'r grŵp ond gallwch ddewis faint neu gyn lleied rydych chi am ei gyfrannu.
  • A fydd rhaid i mi wneud ymarfer corff? Byddwn yn siarad am ymarfer corff ond nid yw'n cael ei gynnwys fel rhan o'r sesiynau.
  • Oes rhaid i mi ddod i bob sesiwn? I gael y gorau o'r grŵp, rydym yn argymell eich bod yn dechrau yn wythnos 1 a gofynnwn i chi fynychu bob wythnos. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi y gallai fod gennych ymrwymiadau eraill eisoes wedi eu trefnu, felly trafodwch hyn gyda'r dietegydd sy'n rhedeg y grŵp.
  • Beth os nad ydw i'n hoffi'r grŵp? Os dewch chi yno, a'ch bod yn penderfynu nad yw hwn ar eich cyfer chi, siaradwch â'r dietegydd fel y gellir trafod opsiynau deieteg eraill.

Adborth Cyfranogwyr

“Mae'n braf gwybod nad fi yw'r unig un sy'n teimlo fel hyn”

“Cefnogaeth ragorol, anfeirniadol, diogel, hwyliog”

“Y tro cyntaf i mi deimlo’n hyderus y gallaf lwyddo gyda’r cynlluniau

a strategaethau rydw i wedi'u dysgu ”

“Wedi bod o fudd i'r teulu cyfan gan gynnwys y plant”

“Mae fy ngholesterol yn is”

“Rwy’n fwy egnïol”

“Gwych, y penderfyniad gorau wnes i eleni, rydw i ar fy ffordd i fod yn fwy ffit a theneuach."

“Helpodd fi i golli pwysau ac wynebu’r heriau sydd fel arfer yn fy nhrechu”

"Gallwch chi bwyso heb yr embaras"

"Roeddwn i'n hoffi'r ffaith na wnaethon ni weiddi hwre wrth bwyso"

"Roeddwn bob amser yn teimlo'n hapus ar ôl pob sesiwn, yn fwy penderfynol"

"Mae newid fy ffordd o fyw wedi fy ngwneud yn fwy hyderus"

"Rwy'n cysgu'n well"

"Mae fy diabetes wedi sefydlogi"

“Helpodd fi i gymryd rheolaeth a gobeithio y byddaf yn parhau i wneud dewisiadau gwell o hyn ymlaen."

Eating for Life Poster, May 2018

 

 

 

 

Dilynwch ni