Mae Iechyd a Llesiant yn y gwaith yn ymwneud â'r sefydliad, ei staff a'i undebau llafur ac, weithiau, asiantaethau allanol yn gweithio gyda'i gilydd i wella'r amgylchedd gwaith. Cyflawnir hyn trwy hyrwyddo cyfranogiad gweithredol mewn gweithgareddau iechyd ac o wneud hynny, cynnal a gwella iechyd y gweithlu.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i annog diwylliant lle mae iechyd a llesiant staff yn flaenoriaeth i bawb. Gyda hyn mewn golwg, rydym wedi datblygu calendr blynyddol fel y gall pobl hyrwyddo a chymryd rhan yn yr ymgyrchoedd perthnasol. Cliciwch ar y ddelwedd isod i ehangu.

Mae gan bob gweithiwr gyfrifoldeb personol i gynnal ei iechyd a'i lesiant ei hun i sicrhau ei fod yn gallu cyflawni gofynion y swydd.
Mae'r Sefydliad wedi datblygu Canllawiau Hyrwyddo Gweithgaredd Corfforol yn y Gweithle i annog cyfranogiad mewn ymarfer corff rheolaidd a hyrwyddo gweithgaredd corfforol fel rhan o'r diwrnod gwaith gan ddefnyddio arwyddion ysgogol a nodiadau atgoffa.
Gwasanaethau sydd ar gael i'ch helpu i gynnal eich iechyd yn y gweithle
| Remploy | 
| Mynediad i waith | 
| Iechyd Galwedigaethol | 
| Gwasanaethau Ffisiotherapi | 
| Gwasanaeth Llesiant Gweithwyr | 
| Adran Iechyd a Diogelwch | 
Adnoddau sydd ar gael