Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp Cynghori ar Iechyd a Llesiant

Cenhadaeth BIP Caerdydd a’r Fro yw “Gofalu am Bobl, Cadw Pobl yn Iach”. Mae hyn yn berthnasol i'n holl weithwyr yn ogystal â'r cleifion rydyn ni'n gofalu amdanyn nhw.

Mae gan y BIP dros 14,000 o staff sy'n gweithio'n galed i ddarparu gwasanaethau i'n poblogaeth. Ein nod yw helpu i gadw ein gweithwyr yn iach trwy ddarparu cefnogaeth a gwybodaeth a all helpu i ofalu am eu hiechyd.

Mae BIP Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr o ddewis ac mae'n cydnabod mai agwedd bwysig ar gyflawni hyn yw hybu a chynnal iechyd a llesiant yr holl staff. Mae llesiant yn y gwaith yn cyfeirio at iechyd seicolegol a chorfforol.

Mae llawer o adnoddau sy'n addas i reolwyr a gweithwyr gynnal eu hiechyd a'u llesiant, gan gynnwys y Rhaglen Cymorth i Weithwyr, Gwasanaethau Iechyd Meddwl a Llesiant, Llesiant Corfforol (ymarfer corff a chlybiau a chynlluniau ar gael), cymorth rhoi'r gorau i ysmygu, gwasanaeth dieteg staff, a chefnogaeth ar gyfer Camddefnyddio Alcohol, Cyffuriau a Sylweddau.

Mae Iechyd a Llesiant yn y Gwaith yn cynnwys ymrwymiad gan y sefydliad i wella iechyd y gweithlu. I gefnogi hyn, mae gennym Grŵp Cynghori Iechyd a Llesiant gweithredol (HWAG) sy'n cyfarfod yn fisol. Mae'r HWAG yn cynnwys grŵp cefnogol o bobl allweddol o bob rhan o'r BIP sy'n chwarae rôl i annog, galluogi a chymeradwyo diwylliant o Iechyd a Llesiant i staff.

Mae'r bobl allweddol yn HWAG yn gweithio ar draws y BIP mewn meysydd sy'n amrywio o deithio, iechyd a diogelwch, ffisiotherapi, dieteg, iechyd galwedigaethol, llesiant gweithwyr, ac Iechyd Cyhoeddus, i enwi ond ychydig. Gwahoddir staff sy'n arwain mentrau yn eu timau hefyd i HWAG oherwydd mae llawer i'w ddysgu ganddyn nhw bob amser. Gyda'n gilydd, mae'r cyfeiriad wedi'i osod ar gyfer gwella llesiant a monitro'r cynnydd sy'n cael ei wneud.

 

Dilynwch ni