Neidio i'r prif gynnwy

Tawelu a Deintyddiaeth Gofal Arbennig

Mae ein hadran yn darparu gofal deintyddol i oedolion sydd ag un neu fwy o namau sylweddol sy'n effeithio ar eu gallu i gael triniaeth ddeintyddol mewn lleoliad cymunedol.

Gall y namau hyn gynnwys cymhlethdod meddygol difrifol, anabledd dysgu, anabledd corfforol, cyflyrau iechyd meddwl difrifol, cyflyrau synhwyraidd a phrosesu.

Mae'n bosibl y byddwn yn darparu gofal o dan anesthesia cyffredinol neu dawelydd mewn rhai amgylchiadau. Rydym hefyd yn darparu tawelu ymwybodol i gleifion deintyddol pryderus a ffobig sydd angen gofal deintyddol.

Rydym hefyd yn hyfforddi deintyddion a nyrsys deintyddol eraill i ddarparu tawelu ymwybodol. Rydym yn gweithio'n agos gyda nifer o arbenigeddau meddygol a deintyddol i gynllunio gofal diogel ac effeithiol.

Yn ogystal, rydym yn aml yn rhannu gofal gyda'n cydweithwyr yn y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol a'r Gwasanaeth Deintyddol Cyffredinol. Unwaith y bydd y driniaeth wedi'i chwblhau, rydym yn rhyddhau cleifion yn ôl at eu deintydd i gael eu harchwiliadau yn nes at eu cartrefi. Os oes gennych chi, ffrind neu berthynas bryder deintyddol neu ffobia, sganiwch y Cod QR yn y clinig yn UDH.

Dilynwch ni