Neidio i'r prif gynnwy

Yr Adran Radioleg

Mae Ysbyty Deintyddol y Brifysgol yn darparu gwasanaeth radioleg deintyddol cynhwysfawr. Mae'r archwiliadau a wneir yn cynnwys:

Radioleg fewneneuol

Techneg lle y caiff y derbynnydd digidol ei roi'r tu mewn i'r geg. Fe'i defnyddir pan fydd angen cryn fanylder am y dannedd a'r asgwrn cynnal. Mae angen amdani'n fwyaf aml i helpu gwneud diagnosis o bydredd dannedd a chlefyd periodontol (clefyd y deintgig).

Radioleg alleneuol

Techneg lle y caiff y derbynnydd digidol ei osod y tu allan i'r geg. Fe'i defnyddir yn gyffredinol i ddangos clefyd mwy helaeth sy'n effeithio ar y genau neu i helpu gwneud diagnosis o gyflyrau fel toresgyrn yn yr wyneb.

Tomograffeg gyfrifiadurol paladr côn 

Dyma dechneg pelydr-x newydd, dos isel, sy'n tynnu delweddau 3 dimensiwn o'r dannedd a'r genau. Fe'i defnyddir yn gyffredinol i reoli cyflyrau mwy cymhleth sy'n effeithio ar y dannedd a'r genau. 

Uwchsain

Dyma weithdrefn anymwthiol sy'n cael ei defnyddio i archwilio chwyddiadau'r pen a'r gwddf.  Mae'n dechneg ddi-boen a chaiff stiliwr uwchsain ei osod ar wyneb y croen er mwyn cael delweddau. 

Biopsïau o'r pen a'r gwddf dan arweiniad uwchsain

Weithiau, er mwyn darganfod beth yn union mae chwydd yn ei gynrychioli, bydd angen biopsi.  Ar gyfer y dechneg hon, caiff nodwydd fân iawn ei gwthio i'r chwydd o dan arweiniad uwchsain, i dynnu rhai celloedd.  Yna, mae'r celloedd yn cael eu harchwilio mewn labordy er mwyn gwneud diagnosis.  

Sialography 

Gweithdrefn sy'n cynnwys rhoi llifyn yn un o'r chwarennau poer. Wedyn, bydd lluniau pelydr-x yn cael eu tynnu o'r chwarren boer. Defnyddir y dechneg hon yn gyffredinol i wneud diagnosis o rwystrau yn y chwarennau poer.

 

Dilynwch ni