Adran Archwiliadau ac Argyfyngau

Mae'r Adran Archwiliadau ac Argyfyngau wedi'i lleoli ar y Llawr Gwaelod.

Nid yw'r adran yn cynnal system docynnau "Y cyntaf i'r felin" mwyach. Os bydd angen sylw deintyddol brys arnoch ond nid oes gennych eich deintydd eich hun, rhaid i chi ffonio'r Llinell Gymorth Ddeintyddol ar 029 20 444 500, sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos, am 365 diwrnod y flwyddyn. Gofynnir cyfres o gwestiynau i chi, yna cewch eich cyfeirio at y man mwyaf priodol i dderbyn gofal. 

Bydd Adran Argyfwng yr Ysbyty Deintyddol yn trin y canlynol yn unig, yn dilyn atgyfeiriadau gan y Llinell Gymorth Ddeintyddol: 

  • Poen deintyddol difrifol
  • Trawma
  • Chwyddo yn yr wyneb
  • Gwaedu direolaeth

Gwelir cleifion yn nhrefn blaenoriaeth glinigol ac nid yn ôl amser cyrraedd.

Nid yw'n bosibl gweld deintyddion arbenigol yn y gwasanaeth hwn. Fodd bynnag, bydd y staff clinigol yn gwneud popeth yn eu gallu i wneud yn siwr bod eich poen a'ch symptomau'n cael eu lleddfu.

Mae'r Clinig Archwiliadau ac Argyfyngau wedi'i leoli yn yr Ysbyty Deintyddol ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener (heblaw am Wyliau Banc). Mae'r drysau'n agor am 7.30am bob bore ac mae'r clinig yn dechrau am 9am. Rhaid i gleifion gofio y gall fod yn rhaid aros am sawl awr a thriniaeth dros dro sy'n cael ei rhoi. 

Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu'ch gweld chi yn y Clinig Argyfwng os byddwch yn cyrraedd heb gysylltu â'r Llinell Gymorth Ddeintyddol yn gyntaf, neu os ydych chi wedi cofrestru gyda deintydd. 

Chwiliwch am ddeintydd yn eich ardal leol.