Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Deintyddol y Brifysgol

Mae Ysbyty Deintyddol y Brifysgol yn rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac mae wedi'i leoli mewn adeilad ar ei ben ei hun ar brif safle Ysbyty Athrofaol Cymru. 

Mae'r Ysbyty Deintyddol yn trin tua 100,000 o gleifion y flwyddyn ac, fel ysbyty addysgu, mae ganddo gysylltiadau cryf â'r Ysgol Deintyddiaeth. Mae'n darparu gofal deintyddol i gleifion y mae sgrinio'n dangos eu bod yn addas i fyfyrwyr israddedig deintyddiaeth eu trin. 

Rôl Ysbyty Deintyddol y Brifysgol yw cyfrannu at addysgu myfyrwyr deintyddiaeth a hyfforddi staff iau'r GIG. Yr Ysgol Deintyddiaeth yw'r unig un o'i math yng Nghymru ac mae'n cynnig arweiniad unigryw a phwysig ym meysydd ymchwil deintyddol, addysgu a gofal cleifion. 

Nid yw Ysbyty Deintyddol y Brifysgol yn cynnig gwasanaeth 24 awr ac mae ar gau gyda'r nos, ar y penwythnos ac ar wyliau banc. 

Mae ganddo Uned Ddeintyddol Gofal Sylfaenol yn Ysbyty Dewi Sant, Treganna ac yn ysbyty newydd Ysbyty Cwm Cynon yn Aberpennar, a Gwasanaeth Deintyddol Ysbyty lleol yn Ysbyty'r Eglwys Newydd. Mae'r Is-adran Ddeintyddol yn gweithio'n ddi-dor gyda'r Brifysgol i gyflwyno addysg i fyfyrwyr a gofal i gleifion. 

Dilynwch y dolenni i ddysgu rhagor am Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol Caerdydd Cynllun Gwên (yr Uned Hybu Iechyd Deintyddol symudol), neu ewch i adran Gwasanaethau Gofal Sylfaenol y wefan.

Mae Ysbyty Deintyddol y Brifysgol yn gallu derbyn galwadau trwy wasanaeth testun “Next Generation” erbyn hyn i gynorthwyo pobl fyddar a thrwm eu clyw.

 

 

 

Dilynwch ni