Diolch am eich ymateb gwych – mae’r ceisiadau bellach yn llawn ac wedi cau
Hoffech chi ddarparu cwmni i ddefnyddwyr gwasanaeth a chleifion mewn lleoliad awyr agored a/neu ward?
Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb mewn natur, ymwneud a gweithgareddau awyr agored, a'r defnydd ohonynt o fewn lleoliad gofal iechyd i gefnogi iechyd meddwl.
Mae'r rolau wedi'u lleoli mewn nifer o leoliadau gwahanol.
Edrychwch ar y disgrifiadau rôl isod os oes gennych ddiddordeb.
Park Road
Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i wirfoddoli yn y rôl hon. Mae'r rôl hon yn gofyn am ymrwymiad i gwblhau recriwtio o fewn 8 wythnos i dderbyn cynnig. Nid yw'r rôl hon yn briodol i'r rhai sydd â phrofiad byw o'r wardiau iechyd meddwl.
Darllenwch hefyd ein canllaw Cam wrth Gam i Recriwtio Gwirfoddolwyr.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.