Mae Gwasanaeth Niwroseiciatreg Cymru yn wasanaeth iechyd meddwl trydyddol arbenigol i Gymru gyfan ar gyfer unigolion (18 oed+) sydd wedi dioddef anaf difrifol i'r ymennydd. Mae'r ward cleifion mewnol 10 gwely a'r Gwasanaeth Dydd yn darparu gofal adsefydlu i gleifion sy'n dioddef o broblemau niwroseiciatrig, gwybyddol, emosiynol ac ymddygiadol o ganlyniad i'r anaf hwnnw.
Bydd gwirfoddolwyr yn ymgysylltu'n ystyrlon â chleifion trwy weithgareddau, naill ai 1:1 neu mewn grwpiau bach, yn yr Ystafell Ddydd. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys posau a gemau, celf a chrefft, a gweithgareddau tymhorol. Gall gwirfoddolwyr hefyd fod yn helpu'r tîm ar y ward i gyflawni gweithgareddau ac ymgysylltiad ystyrlon fel grwpiau cymdeithasol/cyfeillgarwch, grwpiau gweithgarwch corfforol (e.e. coetiau a sgitls).
Bydd ein gwirfoddolwyr delfrydol yn:
Bydd y rôl yn cynnwys ymgysylltu â chleifion a fydd ag anghenion a lefelau gweithredu amrywiol, wrth i gleifion brofi ystod o broblemau corfforol, gwybyddol, emosiynol a/neu ymddygiadol, ac felly bydd angen gwirfoddolwyr dyfeisgar sy'n gyfathrebwyr hyderus.
Bydd angen i wirfoddolwyr allu ymrwymo i ddwy awr yr wythnos am o leiaf chwe mis.
Darllenwch y disgrifiad rôl llawn.
Cofiwch gyflwyno’ch cais cyn gynted â phosibl gan ein bod yn cadw’r hawl i newid dyddiad cau’r cyfle hwn os bydd nifer sylweddol o bobl â diddordeb yn y rôl. Bydd angen i chi fod dros 18 oed i wneud cais. Bydd lleoedd yn gyfyngedig a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis yn dilyn cyfweliad.
Darllenwch hefyd ein canllaw Cam Wrth Gam i Recriwtio Gwirfoddolwyr.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.