Neidio i'r prif gynnwy

Uned Beichiogrwydd Cynnar

Mae'r Uned Asesu Beichiogrwydd Cynnar (EPAU) yn Ward C1 yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn uned unigol integredig sy'n derbyn atgyfeiriadau o bob rhan o Gaerdydd a Bro Morgannwg. Mae'r staff yn yr uned yn fedrus wrth reoli cymhlethdodau beichiogrwydd cynnar, gan gynnwys sganio uwchsain.

Prif nod y gwasanaeth yw lleihau derbyniadau diangen i'r ysbyty gymaint â phosibl, sydd o fudd i gleifion a'r staff.

Meini prawf atgyfeirio: menywod sy'n llai nag 13 wythnos sydd wedi cael prawf beichiogrwydd positif a:

a) phoen abdomenol
b) gwaedu o'r wain
c) beichiogrwydd ectopig blaenorol
ch) llawdriniaeth diwbaidd flaenorol
d) tri chamesgoriad blaenorol neu fwy
dd) Dyfais Atal Cenhedlu yn y Groth yn ei lle.

Atgyfeirio: mae cleifion yn cael eu hatgyfeirio i'r Uned gan eu meddyg teulu yn bennaf, ond hefyd gan wardiau Gynaecoleg, gan Fydwragedd a thrwy lwybrau meddygol eraill. 

Canllawiau: darperir gofal i fenywod gan ddilyn canllawiau a gynhyrchwyd gan yr adran. 

 

Dilynwch ni