Neidio i'r prif gynnwy

Gynaecoleg

Croeso i'r Gwasanaethau Gynaecoleg

Mae Gynaecoleg yn darparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau cleifion mewnol, cleifion allanol a brys. Mae gwasanaethau gynaecoleg yn datblygu'n barhaus, gyda mwy o weithdrefnau'n cael eu cynnal yn yr adran cleifion allanol a llawer o lawdriniaethau'n cael eu cynnal fel achosion dydd. Mae gan ymarferwyr nyrsio rolau allweddol, gan weithio'n agos gyda'r gynaecolegwyr ymgynghorol, ac maen nhw'n ymwneud â gweithdrefnau gynaecolegol, clinigau cyn-asesu a'r Uned Asesu Gynaecolegol Frys. Dyma'r ganolfan ranbarthol ar gyfer Oncoleg Gynaecolegol, ac mae'n darparu gwasanaethau arbenigol ar gyfer Wro-gynaecoleg. Darperir gwasanaethau ar gyfer menywod sy'n terfynu beichiogrwydd a menywod sy'n camesgor.

 

 

Gwybodaeth Gyswllt

  • Swyddfa Weinyddol Gynaecoleg: 029 2184 8752. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.30am a 4.30pm.
  • Clinig Cleifion Allanol Gynaecoleg: 029 2184 7392. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.30am a 5.15pm.
  • Swyddfa Weinyddol Colposgopi: 029 2184 1860. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.30am a 4.00pm.
  • Clinig Colposgopi: 029 2074 2758. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.30am a 5.15pm.
  • Gwasanaeth Cynghori ar Feichiogrwydd: (gan gynnwys triniaeth a gofal erthyliad) 02920742638.
    Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau 8.30am-12:30pm a 1:30pm-4:30pm, a dydd Gwener 8:30am-12:30pm a 1:30pm-4:00pm.

 

Dilynwch ni