Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion Allanol Gynaecoleg

Cynhelir clinigau cleifion allanol gynaecoleg o ddydd Llun i ddydd Gwener yn Ysbyty'r Barri, yn yr Uned Fenywod ar y Llawr Gwaelod Uchaf yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ac yn yr Adran Cleifion Allanol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Mae ymgynghorydd a thîm gwahanol yn bresennol ym mhob clinig.

Cynhelir amrywiaeth o glinigau yn yr adran cleifion allanol, gan gynnwys clinigau hysterosgopi, pesari, cyn-derbyn, cynllunio teulu a phrawf ceg y groth a arweinir gan nyrsys.

Mae gan yr ymgynghorwyr y diddordebau arbenigol canlynol:

  • Oncoleg
  • Neoplasia Mewnepithelaidd Gweiniol (VN)
  • Colposgopi
  • Syndrom Cyn Mislif (PMS)
  • Endometriosis
  • Oncoleg
  • Colposgopi
  • Gynaecoleg Gyffredinol - Menopos 
  • Gynaecoleg Gyffredinol - Anhwylderau'r Glasoed
  • Clefydau'r Fwlfa
  • Beichiogrwydd Digroeso
  • Endometriosis - Poen Pelfig
  • Gynaecoleg Gyffredinol.

Gwasanaethau Colposgopi 

Mae Gwasanaethau Colposgopi wedi'u lleoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a chynhelir clinigau yn yr Uned Fenywod ar y Llawr Gwaelod Uchaf. 

Rhif cyswllt: 029 2184 1860.

Dilynwch ni