Neidio i'r prif gynnwy

Wro-Gynaecoleg

Mae'r Adran Wro-Gynaecoleg yn darparu gwasanaeth amlddisgyblaethol cynhwysfawr i fenywod.

Mae'r adran yn cael ei harwain gan ymgynghorwyr, ac mae cryn dipyn o waith ymchwil yn cael ei wneud gan staff meddygol a nyrsio. Mae staff nyrsio'n arwain clinigau astudiaethau wrodynamig, sy'n ceisio canfod mwy o wybodaeth am weithrediad y llwybr wrinol isaf er mwyn cynorthwyo â thriniaeth.

Mae'r adran Wro-Gynaecoleg yn rhoi asesiad clinigol i fenywod sydd ag amrywiaeth o gwynion neu gyflyrau a atgyfeiriwyd gan Obstetregydd neu feddyg teulu.

  • Problemau gynaecoleg
  • Camweithrediad y llwybr wrinol isaf
  • Prolaps organ llawr y pelfis a phroblemau cysylltiedig, gan gynnwys anymataliaeth
  • Clinig trawma Perineol arbenigol sy'n darparu gwasanaeth dilynol, cyngor ac ymchwiliadau ar gyfer mamau newydd sydd eisoes yng ngofal y Bwrdd Iechyd Prifysgol sydd wedi cael rhwyg trydedd radd yn ystod esgor. 

     

Dilynwch ni