Ar hyn o bryd mae'r labordy elfennau hybrin yn darparu gwasanaeth cynghori dadansoddol a chlinigol cynhwysfawr ar gyfer ystod o brofion arbenigol ar statws elfennau hybrin mewn ystod o hylifau'r corff gan gynnwys plasma, serwm, gwaed cyfan, wrin, hylifau eraill a meinwe. Defnyddir y rhain ar gyfer monitro maethol, monitro diwydiannol a diagnosis tocsicolegol.
Yn ogystal, mae'r labordy elfennau hybrin yn darparu gwasanaeth cymorth hanfodol i'r Uned Tocsicoleg Ranbarthol yn Ysbyty Llandochau.
Ni all cleifion gael mynediad uniongyrchol at y gwasanaethau labordy hyn - mae angen atgyfeiriad gan feddyg teulu neu feddyg arbenigol (yn dibynnu ar y cyflwr dan sylw). Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwasanaethau sydd ar gael a sut y gallwch chi neu'ch teulu gael mynediad at y rhain, cysylltwch â'ch meddyg teulu i drafod. Dylent hefyd fod â gwybodaeth am ariannu'r profion hyn yn eich ardal gan fod hyn yn amrywio o fewn a thu allan i'r DU.
Repertoire Profion Elfennau Hybrin gan gynnwys prisiau – edrychwch ar-lein neu lawrlwythwch
Ar gyfer pob ymholiad, cysylltwch â naill ai:
Paul Bramhall (Labordy - Uwch Wyddonydd Biofeddygol)
02921 848371
E-bost: Paul.Bramhall@wales.nhs.uk
Joanne Rogers (Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol)
02921 826894/02921 84836
E-bost: Joanne.Rogers@wales.nhs.uk
Manjot Gill (Gwyddonydd Clinigol)
02921 826894/02921 848364
E-bost: Manjot.Gill@wales.nhs.uk