Mae'r Adran Imiwnoleg yn darparu gwasanaeth eang ar gyfer ymchwilio, diagnosio a thrin cyflyrau sy'n deillio o gamweithrediad y system imiwnedd.
Mae integreiddio gwasanaethau labordy a chlinigol yn caniatáu inni ddarparu gwasanaeth profion labordy blaengar sy'n hanfodol i ddiagnosio a monitro clefydau imiwnedd cymhleth.
Mae ymchwiliadau labordy yn cynnwys rhai ar gyfer:
Ni all cleifion gael mynediad uniongyrchol at y gwasanaethau labordy hyn - mae angen atgyfeiriad gan feddyg teulu neu feddyg arbenigol (yn dibynnu ar y cyflwr dan sylw). Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwasanaethau sydd ar gael a sut y gallwch chi neu'ch teulu gael mynediad at y rhain, cysylltwch â'ch meddyg teulu i drafod.
Dylai fod gan eich meddyg teulu wybodaeth hefyd am ariannu'r profion hyn yn eich ardal, gan fod hyn yn amrywio o fewn a thu allan i'r DU.
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau imiwnoleg glinigol, ewch i wefan yr Adran Imiwnoleg.
Ffôn: 029 21848350
Leanne Grant (Gwyddonydd Biofeddygol Arweiniol mewn Imiwnoleg) Leanne.Grant@wales.nhs.uk
Dr Tariq El-Shanawany, Dr Stephen Jolles, Dr Richard Cousins (Imiwnolegwyr Clinigol Ymgynghorol)
Ffôn: 029 21845814 / 029 21848358