Mewn cydweithrediad â'r Adran Haematoleg, mae Biocemeg Feddygol ac Imiwnoleg yn cynnig gwasanaeth treialon clinigol ar gyfer:
Mae'r ffioedd gweinyddu a sefydlu fel a ganlyn:
Treialon masnachol | £250 |
---|---|
Treialon anfasnachol < £1500 | £50 |
Treialon anfasnachol >=£1500 | £150 |
Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnwys cofrestru'r treial (aseinio rhif unigryw, cwblhau gwaith papur angenrheidiol, darparu labeli ar gyfer y samplau ymchwil), monitro parhaus (cydlynu unrhyw broblemau gyda phrofion, cynhyrchu canlyniadau yn ôl yr angen) a darparu anfoneb unwaith y bydd y treial wedi'i gwblhau.
Am ddyfynbris, cysylltwch â ni gyda'ch gofynion manwl - e-bostiwch Sarah.james2@wales.nhs.uk gyda'r wybodaeth ganlynol:
Byddwn yn adolygu eich gofynion i sicrhau y gellir eu bodloni, ac os felly, byddwn yn darparu dyfynbris i gyflawni'r profion angenrheidiol.
Wrth gynnal prawf sy'n rhan o dreial clinigol, rhaid iddo fod yn amlwg i bawb sy'n rhan o'r broses mai dyma yw'r achos - rhaid i unrhyw brawf y mae clinigwr yn gofyn amdano nad yw'n arferol, ac na fyddai fel rheol yn cael ei gynnal ar gyfer rheolaeth glinigol y claf hwnnw, gael ei ariannu fel rhan o dreial clinigol (ac ni ddylid gofyn amdano fel prawf safonol GIG).
Sarah James (Cydlynydd Treialon Clinigol) E-bost: Sarah.james2@wales.nhs.uk
Dr Mike Badminton E-bost: mike.badminton@wales.nhs.uk