Mae'r adran biocemeg acíwt yn cynnig repertoire cynhwysfawr o ymchwiliadau biocemeg, a ddarperir gan ddadansoddwyr modern, awtomataidd.
Rydym yn darparu gwasanaeth cynghori dadansoddol a chlinigol ar gyfer gofal sylfaenol ac eilaidd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, yn ogystal â chroesawu ceisiadau gan ddarparwyr allanol. Darperir gwasanaethau ar safleoedd Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau.
Ni all cleifion gael mynediad uniongyrchol at y gwasanaethau labordy hyn - mae angen atgyfeiriad gan feddyg teulu neu feddyg arbenigol (yn dibynnu ar y cyflwr dan sylw). Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwasanaethau sydd ar gael a sut y gallwch chi neu'ch teulu gael mynediad i'r rhain, cysylltwch â'ch meddyg teulu i drafod.
Dylent hefyd fod â gwybodaeth am ariannu'r profion hyn yn eich ardal gan fod hyn yn amrywio o fewn a thu allan i'r DU.
Repertoire Profion Gwasanaeth Biocemeg Acíwt – edrychwch ar-lein neu lawrlwytho
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â 029 2184 2800
Mark Saunders (BMS Arweiniol)
Mark.Saunders@wales.nhs.uk
Biocemegydd ar ddyletswydd - 029 21848334 (llinell uniongyrchol) / 029 21847747, bleep 5452
Dr Soha Zouwail (Ymgynghorydd Patholeg Gemegol ac Arweinydd Clinigol i'r Adran Biocemeg Acíwt - YAC)
soha.zouwail@wales.nhs.uk
Ffôn: 029 21848351
Dr Dev Datta (Ymgynghorydd Biocemegol - Llandochau)
dev.datta@wales.nhs.uk
Ffôn: 029 2071 6844