Neidio i'r prif gynnwy

Asesiadau Diagnostig ar gyfer Awtistiaeth


Beth yw awtistiaeth?

Mae awtistiaeth yn gyflwr datblygiadol gydol oes sy'n effeithio ar y ffordd y mae pobl yn deall ac yn rhyngweithio â'r byd o'u cwmpas. Cyfeirir ato fel cyflwr sbectrwm oherwydd yr amrywiaeth eang o gyflwyniadau a welir mewn unigolion awtistig; er enghraifft, gall rhai pobl fod ag anabledd dysgu sy'n cyd-ddigwydd. Fodd bynnag, bydd pawb sy'n cael eu hystyried yn awtistig yn rhannu anawsterau cyffredin, er y gall yr anawsterau hyn effeithio arnynt mewn ffyrdd gwahanol. Yn fras, bydd pobl ag awtistiaeth yn cael anawsterau yn y meysydd canlynol: rhyngweithio cymdeithasol, cyfathrebu cymdeithasol, ac arferion, ymddygiadau ailadroddus a diddordebau dwys.

Asesiadau diagnostig

Er mwyn cael diagnosis o awtistiaeth, mae ar bobl angen cael asesiad gan weithwyr proffesiynol sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol ar asesu ar gyfer awtistiaeth. Fel arfer, mae'r asesiadau'n cynnwys hanes manwl, arsylwadau a chasglu gwybodaeth gan un neu fwy o bobl sy'n adnabod y sawl sy'n cael ei asesu (e.e. rhiant). Mae llawer o bobl yn cael diagnosis o awtistiaeth yn ystod plentyndod, ond mae mwy o bobl yn ceisio asesiadau fel oedolion, yn rhannol oherwydd bod mwy o ymwybyddiaeth o'r sbectrwm awtistiaeth.

Os ydych chi'n ystyried atgyfeirio'ch hunan i gael asesiad diagnostig o awtistiaeth, neu os ydych chi'n weithiwr proffesiynol sy'n ystyried atgyfeirio ar ran rhywun, darllenwch y wybodaeth ganlynol. Mae'r wybodaeth yn dweud wrthych am feini prawf diagnostig awtistiaeth a'r broses asesu.

Meini prawf diagnostig:

  • I wneud diagnosis o awtistiaeth, mae'n rhaid bod gan unigolyn anawsterau rhyngweithio cymdeithasol a chyfathrebu arwyddocaol ac ymddygiadau, diddordebau neu weithgareddau cyfyngedig ac ailadroddus – gweler y tabl isod am enghreifftiau o'r mathau o bethau gall pobl eu profi.
  • Mae'n rhaid bod yr anawsterau hyn yn rhai gydol oes. Mae hyn yn golygu y byddant wedi dechrau yn ystod plentyndod.
  • Mae angen i'r anawsterau hyn fod yn cael effaith ar agweddau lluosog ar eich bywyd (nid dim ond creu problemau mewn un sefyllfa).
  • Dyma rai enghreifftiau. Nid oes angen i chi brofi pob un o'r anawsterau hyn, ond mae angen i chi brofi anawsterau ar draws y ddwy golofn:
     
Rhyngweithio cymdeithasol a chyfathrebu cymdeithasol 
 
Ymddygiadau, diddordebau neu weithgareddau cyfyngedig ac ailadroddus  

Anawsterau creu a/neu gynnal perthnasoedd

Canolbwyntio'n fanwl fanwl, diddordebau  sy'n cymryd drosodd

Anawsterau deall a rheoli emosiynau

Cadw'n ormodol at arferion, i raddau anghyffredin 

Problemau deall sut mae pobl eraill yn meddwl neu'n teimlo 

Meddylfryd anhyblyg (meddwl yn ddu a gwyn)

Anawsterau deall rheolau cymdeithasol 

Anawsterau ymdopi â newid

Lleferydd anarferol

Ymddygiad neu arferion ailadroddus

Lleferydd ailadroddus 

Cadw'n gaeth at reolau 

Anawsterau cynnal cyswllt llygaid

Symudiadau ailadroddus neu ystrydebol 

Llai o fynegiant yr wyneb neu ystumio 

Gorsensitifrwydd neu dansensitifrwydd i agweddau synhwyraidd ar yr amgylchedd

Anawsterau cyfathrebu ag eraill 

Sylwi ar fân fanylion, patrymau neu seiniau nad yw pobl eraill yn sylwi arnynt

Problemau deall, fel cymryd pethau'n rhy llythrennol 

 

Anawsterau gallu darllen cyfathrebu dieiriau pobl eraill 

 


Gwybodaeth am y broses:

  • Ar hyn o bryd (Mehefin 2020), mae 12 mis o aros. Fodd bynnag, oherwydd y galw sylweddol ar asesiadau, mae'r amseroedd aros yn cynyddu felly gall y cyfnod aros fod yn hwy na 12 mis.
  • Cyn yr asesiad, bydd dau holiadur cyn asesu'n cael eu dosbarthu i'w cwblhau gan y sawl sy'n cael ei asesu a chan rhywun sy'n adnabod ei adnabod yn dda.
  • Mae'r asesiad yn cynnwys 1-2 apwyntiad gyda dau Glinigydd. Gallai'r asesiad llawn gymryd hyd at 5 awr.
  • Nid yw llawer o bobl sy'n cael eu hatgyfeirio i'w hasesu yn bodloni'r meini prawf diagnostig, er bod ganddynt nodweddion/ymddygiadau sy'n gorgyffwrdd ag awtistiaeth. Rydym yn cydnabod y gall fod yn siomedig iawn i rai pobl os nad ydynt yn cael diagnosis. 

Os hoffech wneud cais am asesiad awtistiaeth ar ôl darllen y wybodaeth hon, llenwch y ffurflen atgyfeirio hon gan roi cymaint o wybodaeth ag y gallwch, a'i dychwelyd i'r Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth. Os oes angen help arnoch i lenwi'r ffurflen, rhowch wybod i ni. I weithwyr proffesiynol sy'n ystyried atgyfeirio i'r Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth, cyfeiriwch hefyd at ein llwybr diagnostig i gael rhagor o wybodaeth.

Dilynwch ni