Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant, Ymgynghori a Chyngor y Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth

Mae'r Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth yn cynnig hyfforddiant, ymgynghori a chyngor i bobl mewn gwasanaethau eraill sy'n cefnogi pobl ag awtistiaeth neu amheuaeth o awtistiaeth. Os bydd rhywun yn bodloni'r meini prawf ar gyfer gwasanaeth, dylai'r gwasanaeth hwnnw ddarparu'r prif gymorth i'r unigolyn, ond gall y Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth gynnig cyngor a gweithio ar y cyd i gynyddu'r sgiliau a'r wybodaeth am awtistiaeth ar draws gwasanaethau. Mae enghreifftiau'n cynnwys: cyngor ar addasu asesiadau ac ymyriadau i bobl awtistig, sut i ymwneud â rhywun ag awtistiaeth, ystyriaethau am yr amgylchedd i bobl ag awtistiaeth, ac ymholiadau am atgyfeiriadau.

Cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth os oes gennych unrhyw gwestiynau am gael at y gwasanaethau hyn drwy'r e-bost neu dros y ffôn.

Dilynwch ni