Neidio i'r prif gynnwy

Atgyfeiriadau i'r Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth

Sut gallaf i atgyfeirio?

Rydym ni'n derbyn atgyfeiriadau gan weithwyr iechyd proffesiynol o bob math am asesiadau diagnostig.

Llenwch y ffurflen atgyfeirio a'i hanfon atom ni.

Os ydych chi'n unigolyn sy'n ceisio asesiad diagnostig, gofynnwch i'ch meddyg teulu neu i'ch gweithiwr iechyd proffesiynol perthnasol lenwi'r ffurflen atgyfeirio a'ch atgyfeirio. 

I'r rheiny sydd eisoes wedi cael diagnosis, rydym ni'n derbyn atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol, hunanatgyfeiriadau, ac atgyfeiriadau gan rieni a gofalwyr. Gallem ofyn am gael gweld tystiolaeth o ddiagnosis. Gellir atgyfeirio dros y ffôn, drwy'r e-bost neu yn ysgrifenedig.

Beth allaf i ei ddisgwyl ar ôl atgyfeirio?

Asesiadau diagnostig: Pan fyddwn wedi cael eich atgyfeiriad, cewch wybod eich bod ar ein rhestr aros. Anfonir rhai holiaduron atoch i'w hateb cyn eich apwyntiad, yna cewch eich gwahodd i 1 neu 2 o apwyntiadau asesu. Yn dilyn eich asesiad, byddwn yn rhoi cyngor ar y camau nesaf ac yn rhoi adroddiad i chi. 

Atgyfeiriadau eraill: Os yw'n briodol, cewch gynnig apwyntiad cychwynnol gydag aelod o'n tîm, a fydd yn asesu eich anghenion ac yn llunio cynllun gyda chi. O ganlyniad i'r apwyntiad hwnnw, efallai y byddwn yn cynnig cymorth grŵp i chi, yn eich cyfeirio at wasanaethau eraill, neu'n cynnig cymorth unigol i chi.

Dilynwch ni