Haint ffwngaidd neu furum gyffredin yw'r llindag, sy'n digwydd gan amlaf ar ffurf llindag y wain ymhlith menywod. Gall fod yn gyflwr sy'n codi cywilydd, ac mae rhai pobl yn cael symptomau rheolaidd.
Er ein bod yn meddwl yn fwy cyffredin am fenywod yn cael y llindag, gall pobl o unrhyw oedran gael y llindag yn eu cegau. Gall dynion hefyd gael y llindag o amgylch eu horganau cenhedlu.
Mae'r burum sy'n achosi'r llindag yn ffynnu mewn mannau cynnes. Am hynny y mae'n tueddu i ddatblygu o dan y bronnau, yn y werddyr ac o amgylch yr organau cenhedlu. Bydd llindag y wain yn digwydd pan fydd cydbwysedd naturiol candida yn cael ei newid, sy'n ei alluogi i luosogi ac achosi'r llindag.
Rydych yn fwy tebygol o gael y llindag:
Gall babanod gael y llindag hefyd, yn enwedig yn eu cegau.
Os yw hyn yn digwydd a'ch bod yn bwydo ar y fron, mae'n awgrymu fod y llindag gennych efallai yn ardal eich didennau, felly bydd angen ichi drin eich hun yn ogystal â'r baban.
Os ydych yn bwydo â photel neu'n defnyddio dymi, mae angen ichi gofio diheintio pob dymi a photel yn briodol.
Os ydych yn feichiog ac yn datblygu arwyddion neu symptomau'r llindag, mae angen ichi siarad â'ch fferyllydd neu'ch meddyg teulu cyn trin eich hun. Gall gynghori ar y cynhyrchion sy'n ddiogel i'w defnyddio yn ystod beichiogrwydd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG.
Pwyntiau Allweddol