Mae poen cefn yn gyffredin iawn, gan effeithio ar y rhan fwyaf o bobl ar ryw adeg yn eu bywydau. Mae llawer o bethau'n achosi poen cefn, gan gynnwys osgo, beichiogrwydd, pwysau a thrawma.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG.
Mathau o boen cefn
Poen cefn amhenodol/mecanyddol – yn aml heb unrhyw achos penodol neu boen yn y meinweoedd meddal o gwmpas yr asgwrn cefn
- Mae'r math hwn o boen yn tueddu i wella neu waethygu gan ddibynnu ar eich ystum.
- Mae'n nodweddiadol waeth wrth symud – ond mae angen ichi ddal i symud neu gall hwn wneud y sefyllfa'n waeth.
- Mae'n gallu datblygu'n sydyn neu'n raddol.
- Gellir ei achosi drwy godi rhywbeth yn lletchwith, osgo gwael ac weithiau heb unrhyw achos amlwg.
- Bydd symptomau fel arfer yn dechrau gwella ar ôl ychydig wythnosau.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG.
Disg Llac – sef disg o gartilag yn yr asgwrn cefn sy'n pwyso ar nerf
Seiatica – llid ar y nerf sy'n rhedeg o waelod y cefn i'r traed
Anaf Atchwipio – a achosir gan drawiad sydyn fel damwain car
Fferdod ysgwydd – poen ac anystwythder yn yr ysgwydd
- Yn nodweddiadol, bydd gennych boen yn eich ysgwydd yn ystod y ddeufis i naw mis cyntaf, cyn datblygu anystwythder cynyddol yn y cymal.
- Mae symptomau fel arfer yn gwaethygu dros gyfnod o fisoedd.
- Efallai bydd gwelliant yn y symptomau ond gall hyn gymryd nifer o flynyddoedd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG.
Sbondylitis Asiol - cyflwr tymor hir sy'n achosi llid yn yr asgwrn cefn yn ogystal ag ardaloedd eraill o'r corff
- Mae symptomau fel arfer yn cynnwys poen cefn ac anystwythder.
- Gall pobl hefyd ddioddef o flinder eithafol yn ogystal â phoen a chwyddo mewn rhannau eraill o'r corff.
- Mae symptomau'n tueddu i ddatblygu'n raddol, ac efallai byddant yn mynd a dod dros amser.
- Mae symptomau rhai pobl yn gwella ag amser, ond efallai bydd eraill yn sylwi ar ddirywiad cyffredinol
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG.
Triniaethau ar gyfer Poen Cefn
Pryd bynnag y bo modd, dylech wneud y pethau canlynol:
- cadw mor weithgar â phosibl – bydd hyn yn eich helpu i wella'n gyflymach
- gosod clytiau poeth ac oer ar ardal y boen
- defnyddio triniaeth lleddfu poen dros y cownter i helpu i leddfu'ch symptomau.
Gall eich Fferyllydd roi gwybod i chi am driniaeth dros y cownter i leddfu poen.
Sylw gan Feddyg Teulu/Ymarferwr Clinigol
Pwyntiau allweddol
- Os yw eich poen cefn yno o hyd, ond yn gwella, yn aml ni fydd angen ichi weld y meddyg.
- Mae llawer o bethau'n achosi poen cefn, ac weithiau nid yw'r achos yn hysbys.
- Mae defnyddio meddyginiaeth lleddfu poen yn ei gwneud yn haws byw gyda phoen cefn.