Mae gwres uchel neu dwymyn yn symptom cyffredin y mae pobl yn ei ddatblygu pan fyddant yn sâl – a llawer o wahanol ffactorau'n ei achosi. Gall gwres amrywio o fod ychydig yn uchel i fod yn beryglus, gan ddibynnu beth sydd wedi'i achosi a beth yw'r afiechyd sylfaenol.
Twymyn mewn plant
Gall beri gofid i rieni pan fydd plant yn datblygu gwres – ystyrir bod tymheredd uwch na 37.5C (99.5F) yn dwymyn mewn plentyn. Fodd bynnag, gall hyn amrywio rhwng plant, a rhai ohonynt yn sâl gyda thymheredd is ac eraill â thymheredd llawer uwch yn berffaith iach.
Y peth pwysicaf yw gwybod beth sy'n arferol i'ch plentyn chi a gofyn am gyngor os ydych yn poeni am ei dymheredd.
Fel arfer, nid yw gwres ysgafn yn ddim i boeni yn ei gylch, ond ar rai adegau efallai bydd angen ichi gael cyngor meddygol.
- Os yw eich plentyn yn llai na 3 mis oed a bod arno dymheredd o 38C (101F) neu uwch NEU os yw eich plentyn yn 3-6 mis oed a bod ganddo dymheredd o 39C (102F) neu uwch.
- Mae'r dwymyn yn para mwy na phum diwrnod.
- Os yw eich plentyn yn cael trawiad (ffit).
- Os yw eich plentyn yn dangos arwyddion salwch difrifol, fel croen cochlyd, brech sy'n gwrthod pylu neu anadlu cyflymach.
- Os ydych yn poeni am eich plentyn – dilynwch eich greddf os ydych chi'n credu bod eich plentyn yn sâl.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG
Sut mae trin gwres
- Mae parasetamol neu ibwproffen i blant yn gweithio fel cyffuriau gwrthdwymynol, sy'n helpu i leddfu twymyn, yn ogystal â lleddfu poen. Ni allwch roi'r ddau ohonynt ar yr un pryd, ond os nad yw'r naill yn gweithio, efallai y byddwch am roi cynnig ar y llall yn nes ymlaen.
- Nid oes angen cyffuriau gwrthdwymynol bob amser. Os nad yw'r dwymyn na'r afiechyd sylfaenol yn poeni eich plentyn yn ddifrifol, nid oes angen defnyddio cyffuriau gwrthdwymynol i leddfu twymyn.
- Wrth ddefnyddio cyffuriau gwrthdwymynol, darllenwch y daflen wybodaeth i gleifion sy'n dod gyda'r feddyginiaeth bob amser i ganfod y ddos a'r amlder cywir i oedran eich plentyn.
- Oerwch eich amgylchedd drwy agor ffenestri a thynnu dillad nad oes mo'u hangen.
- Os yw eich symptomau'n parhau, gofynnwch am gyngor meddygol - efallai bydd angen triniaeth arnoch i'r broblem sylfaenol sy'n achosi eich gwres.
Pwyntiau Allweddol
- Gall gwres uchel iawn mewn plentyn fod yn beryglus. Cofiwch gymryd yr holl gamau i'w drin gartref gan ddilyn cyngor meddygol. Os bydd y gwres yn parhau neu'n mynd yn beryglus o uchel, rhaid ichi gael cymorth meddygol.
- Nid yw gwres bob amser yn rhywbeth i boeni yn ei gylch – mae'n ddigon posibl y bydd tymheredd syml yn mynd yn gyflym gan ddefnyddio meddyginiaeth dros y cownter.
- Gall tymheredd uchel parhaus fod yn arwydd o haint - os bydd tymheredd yn parhau, efallai bydd angen ichi gael cyngor meddygol.