Mae clwy'r gwair yn gyflwr cyffredin iawn sy'n effeithio ar hyd at 25% o bobl. Er nad yw'n gyflwr sy'n bygwth bywyd, gall fod yn annymunol iawn i'r sawl sy'n dioddef ag ef.
Achosion Clwy'r Gwair
Mae nifer o bethau'n achosi clwy'r gwair ond paill sy'n ei achosi'n bennaf. Gall hwn ddod o laswellt, coed neu chwyn. Mae rhai coed yn rhyddhau eu paill tua dechrau'r gwanyn, felly gallai rhai pobl ddechrau datblygu symptomau clwy'r gwair ymhell cyn tymor nodweddiadol paill glaswellt.
Gall rhai pobl fod yn fwy tebygol o ddatblygu clwy'r gwair oherwydd:
- bod cyflyrau alergaidd arnynt yn barod, fel ecsema ac asthma
- bod hanes o glwy'r gwair yn y teulu.
Sut mae trin clwy'r gwair
Gall fod yn fwy effeithiol atal y symptomau na'u trin ar ôl iddynt ymddangos. Y gamp yw ceisio nodi'r hyn sy'n achosi symptomau clwy'r gwair (p'un ai'n baill coed neu laswellt) i geisio rhagfynegi pryd y gallai'r symptomau ddechrau. Gall hyn effeithio o ddifrif ar effeithiolrwydd triniaethau.
Yn ystod y tymor paill brig, gall fod lefelau uchel iawn o baill yn yr atmosffer, felly mae'n bwysig lleihau eich cysylltiad â hwn.
Rhagor o awgrymiadau i helpu i reoli eich symptomau clwy'r gwair
- Ceisiwch gadw eich cartref mor 'rhydd o baill' ag sy'n bosibl – cadwch ffenestri a drysau ar gau yn enwedig gyda'r nos pan fydd paill yn syrthio i lefelau is yn yr atmosffer.
- Efallai bydd dillad a dillad gwely a sychwyd ar lein ddillad yn denu paill. Os yw'ch symptomau'n ddifrifol, efallai y byddwch am ddefnyddio peiriant sychu dillad.
- Os ydych wedi bod allan ac yn dychwelyd i'r cartref, newidiwch eich dillad a golchwch eich gwallt i waredu unrhyw baill y gallech fod wedi'i gasglu tra buoch allan.
- Wrth yrru, cadwch y ffenestri ar gau a chofiwch sicrhau bod y hidlen baill ar y car wedi'i hadnewyddu yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr.
- Gall gwisgo sbectol gwtogi ar y paill a ddaw i gysylltiad â'ch llygaid.
- Gall fod yn well treulio amser yn yr awyr agored ger y môr, yn hytrach nag ar y mewndir lle mae'r awel yn cynnwys mwy o baill.
- Efallai hefyd y bydd eich anifeiliaid anwes yn cario paill i'r cartref.
Efallai na fydd yr awgrymiadau hyn yn ddigon i rai pobl reoli neu leddfu eu symptomau, ac efallai bydd angen iddynt droi at feddyginiaeth. Eto, mae'n well cymryd meddyginiaeth yn fesur ataliol yn hytrach na'i chymryd pan fydd symptomau ar eu gwaethaf.
Mae'r driniaeth i glwy'r gwair ar gael yn helaeth o Fferyllfeydd, a chleifion yn gallu cael yr holl driniaeth sydd ei hangen arnynt. Dylech droi at y man hwn yn y lle cyntaf os byddwch yn dechrau datblygu symptomau clwy'r gwair.
Trin Clwy'r Gwair
Mae nifer o wahanol driniaethau ar gyfer clwy'r gwair, a phob un ar gael o'r Fferyllfa.
- Tabledi – enw'r rhain yw gwrth-histaminau. Gall gwrth-histaminau eich gwneud chi'n swrth ond mae rhai ar gael heb yr effaith hon. Gall eich Fferyllydd eich cynghori ar y rhai mwyaf addas i chi, ond cofiwch fynd ag unrhyw feddyginiaeth a gewch eisoes ar bresgripsiwn gyda chi er mwyn ei dangos.
- Chwistrellau trwyn – mae'r rhain yn fwy effeithiol os cewch chi symptomau trwynol yn bennaf, ac maent naill ai'n rhai steroid neu wrth-histamin. Os dewiswch ddefnyddio'r chwistrellau steroid, gall y rhain gymryd nifer o wythnosau i gyrraedd eu llawn effaith, felly dylid dechrau eu defnyddio nifer o wythnosau cyn i symptomau ddechrau, a pharhau nes bod y lefelau paill yn isel.
- Diferion llygaid – mae'r rhain hefyd ar gael gan eich Fferyllydd, a bydd yn gallu cynghori ar y diferion mwyaf addas i chi.
Os bu'r holl driniaethau hyn yn aneffeithiol, yna dylai cleifion gysylltu â'u meddyg teulu bryd hynny. Ni chynigir steroidau fel rheol i drin clwy'r gwair oherwydd pryderon am osteoporosis ond gall fod amgylchiadau eithriadol lle mae'r driniaeth hon yn ofynnol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG
Sylw gan Feddyg Teulu / Ymarferydd Clinigol
Pwyntiau Allweddol
- Mae triniaethau ar gyfer clwy'r gwair i gyd ar gael o'ch fferyllfa leol, ac yno y dylech fynd gyntaf am gyngor.
- Atal symptomau yw'r peth pwysicaf wrth drin clwy'r gwair - cofiwch ddechrau'r feddyginiaeth yn gynnar.
- Defnyddiwch dabledi gwrth-histamin, diferion llygaid neu chwistrell trwyn i drin eich symptomau, yn ôl cyngor eich Fferyllydd.