Mae anwydau a ffliw yn rhannu rhai o'r un symptomau ond cânt eu hachosi gan wahanol feirysau. Gall y 'ffliw' fod yn llawer mwy difrifol nag annwyd.
Os ydych fel arfer yn ffit ac iach, gallwch reoli symptomau annwyd a ffliw heb fynd at y meddyg.
- Cofiwch yfed digonedd o hylif di-alcohol i'ch atal rhag dadhydradu.
- Cofiwch orffwys ac osgoi ymarfer corff egnïol.
- Gall meddyginiaeth dros y cownter fel parasetamol ac ibwproffen helpu i leddfu doluriau a phoenau.
- NID yw gwrthfiotigau'n effeithiol yn trin anwydau a'r ffliw.
Sut byddaf yn gwybod os oes annwyd neu'r ffliw arnaf?
Annwyd – Gall symptomau bara hyd at bythefnos |
Y Ffliw – Gall symptomau bara hyd at wythnos ond gallwch deimlo'n flinedig am hirach |
Trwyn yn diferu – gyda llysnafedd clir/gwyrdd |
Twymyn sydyn o 38-40C (100-104F) |
Trwyn llawn |
Doluriau a phoenau yn y cyhyrau |
Dolur gwddf |
Chwysu |
Pesychu |
Angen gorwedd, teimlo wedi blino'n llwyr |
Tisian |
Peswch sych, myglyd |
Twymyn ysgafn |
|
Clust dost |
|
Blinder |
|
Cur pen |
|
Pobl mewn Mwy o Berygl
Mae rhai grwpiau o bobl mewn mwy o berygl o ddatblygu cymhlethdodau o afiechydon annwyd a'r ffliw, sef:
- pobl dros 65 oed
- pobl o dan 65 oed gan gynnwys plant sydd â:
- phroblemau difrifol y galon neu'r frest, gan gynnwys asthma
- clefyd yr arennau neu'r iau/afu
- diabetes
- imiwnedd isel oherwydd cyflwr iechyd neu feddyginiaeth
- hanes o strôc neu TIA (pwl ischaemig byrhoedlog)
- menywod beichiog.
Cynigir brechiad ffliw am ddim bob blwyddyn i bobl yn y grwpiau mewn perygl, sef y peth gorau i ddiogelu rhag y feirws. Mae'r grwpiau hyn hefyd yn cynnwys gofalwyr a pherthnasau'r rheini yn y grwpiau sydd mewn perygl.
I gael gwybod am frechlyn y ffliw, cysylltwch â'ch meddygfa deulu, eich nyrs practis neu fferyllydd lleol.
Ataliwch annwyd a'r ffliw rhag lledu
Caiff feirysau eu lledu drwy ddefnynnau aer sy'n cael eu pesychu neu eu tisian allan gan y sawl â'r afiechyd. Yna, bydd pobl eraill yn anadlu'r defnynnau hyn neu'n dod i gysylltiad â nhw ar eu dwylo.
- Cofiwch besychu neu disian i hances bapur, a thaflu'r hances bapur cyn gynted â phosibl wedi'i defnyddio.
- Golchwch eich dwylo cyn gynted â phosibl.
- Sicrhewch fod arwynebau, gan gynnwys handlenni drysau, yn cael eu glanhau'n rheolaidd, ac anogwch bawb i olchi eu dwylo'n rheolaidd.
- Sicrhewch eich bod yn cael brechlyn y ffliw bob blwyddyn os ydych chi neu rywun y gofalwch amdano yn perthyn i grŵp risg uchel.
Sylw gan Feddyg Teulu/Ymarferwr Clinigol
Pwyntiau Allweddol
- Gellir rheoli afiechydon annwyd a ffliw fel arfer yn y cartref gan ddefnyddio meddyginiaeth dros y cownter a sicrhau bod gennych ddigon i'w yfed.
- NID yw gwrthfiotigau'n effeithiol yn trin annwyd neu ffliw – mae'r afiechydon hyn fel arfer yn gwella eu hunain dros wythnos neu ddwy.
- Os ydych mewn grŵp risg uchel neu'n gofalu am rywun o'r grwpiau hyn, cofiwch gael eich brechlyn ffliw blynyddol.