Neidio i'r prif gynnwy

Endometriosis

Beth yw Endometriosis?

Mae endometriosis yn gyflwr cyffredin sy'n effeithio ar fenywod yn ystod y blynyddoedd pan allant feichiogi. Mae'n digwydd pan fydd meinwe tebyg i leinin y groth (yr endometriwm) yn glynu wrth organau yn y pelfis ac yn dechrau tyfu. Mae'r feinwe endometriaidd hon sydd allan o le, yn achosi llid yn y pelfis a all arwain at boen ac anffrwythlondeb.

Ynghyd ag achosi mislif poenus, gall endometriosis hefyd achosi:

  • poen cyson yn y pelfis
  • poen cefn
  • poen yng nghesail y forddwyd
  • poen yn y coesau
  • poen yn ystod ac yn dilyn cyfathrach rywiol 
  • poen wrth droethi neu weithio'r corff 
  • anffrwythlondeb
  • blinder.

Pa mor gyffredin yw endometriosis?

Mae endometriosis yn hynod gyffredin, yn enwedig mewn menywod â'r symptomau uchod. Mae endometriosis yn effeithio ar hyd at 2 filiwn o fenywod yn y DU, neu hyd at 1 o bob 10 menyw neu 10% o fenywod o oedran atgenhedlu! Mae'n ymddangos yn fynych ymhlith merched yn eu harddegau ond, yn aml, bydd oedi cyn cael diagnosis.

Nid yw gwir nifer y bobl ag endometriosis yn hysbys oherwydd bydd llawer o gleifion heb gael diagnosis neu nid ydynt yn ceisio cyngor meddygol, neu cânt y cyngor anghywir i helpu gyda'u symptomau. 

A yw fy nghlefyd yn ysgafn, yn gymedrol neu'n ddifrifol?

Mae'r American Society of Reproductive Medicine (ASRM) (www.asrm.org) yn diffinio pedwar cam endometriosis, sef I-minimol, II-ysgafn, III-cymedrol, a IV-difrifol, yn dibynnu ar leoliad, graddau a dyfnder mewnblaniadau endometriosis; presenoldeb a difrifoldeb adlyniadau; a phresenoldeb a maint endometriomau ofarïaidd. Mae gan y rhan fwyaf o fenywod endometriosis minimol neu ysgafn, y mae mewnblaniadau arwynebol ac adlyniadau ysgafn yn eu nodweddu. Mae codenni siocled ac adlyniadau mwy difrifol yn nodweddu enodmetriosis cymedrol a difrifol.  Nid yw cam yr endometriosis yn cyfateb i bresenoldeb na difrifoldeb symptomau, ac eithrio ffrwythlondeb. Po fwyaf difrifol yw'r cyflwr, y mwyaf niweidiol yw'r effaith ar ffrwythlondeb.

Rhagor o wybodaeth

Ffotograff mwgwd llawfeddygol

 Ffotograff mwgwd llawfeddygol  

Sut gwneir diagnosis o Endometriosis? Triniaethau meddygol ar gyfer Endometriosis

 

 

 

Dilynwch ni